Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Caethwasiaeth Fodern yw'r term a ddefnyddir yn y DU ac fe'i diffinnir yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae'r Ddeddf yn categoreiddio troseddau Caethwasiaeth, Caethwasanaeth a Llafur dan Orfod a Masnachu mewn Pobl. Ei nod yw brwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern yn y DU ac mae'n cydgyfnerthu troseddau blaenorol yn ymwneud â masnachu pobl a chaethwasiaeth. Mae'r ddeddf yn ymestyn i Gymru a Lloegr.

Mae'r troseddau hyn yn cynnwys dal rhywun mewn caethwasiaeth, llafur dan orfod neu gaethwasanaeth gorfodol, neu eu helpu i deithio gyda'r bwriad o gam-fanteisio arnynt yn fuan wedi hynny.

Er bod masnachu pobl yn aml yn cynnwys elfen drawsffiniol ryngwladol, mae hefyd yn bosibl bod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern yn eich gwlad eich hun.

Mae'n bosibl bod yn ddioddefwr hyd yn oed os rhoddwyd caniatâd i chi symud.

Ni all plant roi caniatâd i gael eu hecsbloetio felly nid oes angen i'r elfen o orfodaeth neu dwyll fod yn bresennol i brofi trosedd.

Lawr lwythwch gopi o Lwybr Diogelu Caethwasiaeth Fodern Cymru yma.

The Modern Slavery Act 2015 statutory defence: A call for evidence Mae'r Comisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol, y Fonesig Sara Thornton, wedi cyhoeddi adolygiad am y defnydd o amddiffyniad statudol Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Gweler uchod ddolen i ganfyddiadau'r Fonesig Sara Thornton.

Arwyddion caethwasiaeth

Oherwydd natur gudd caethwasiaeth ac amharodrwydd neu anallu caethweision i geisio cymorth, efallai na fyddwch yn sylweddoli eich bod wedi dod i gysylltiad â dioddefwr. Dyma rhai o'r arwyddion i edrych amdanynt, maent yn cynnwys:

  • cyswllt cyfyngedig â theulu
  • cam-drin corfforol
  • diffyg ymddiried mewn awdurdod
  • dim ffrindiau
  • gweithredu fel petai nhw dan reolaeth rhywun arall
  • yn ymddangos eu bod yn dioddef o ddiffyg maeth
  • dryswch
  • osgoi cyswllt llygaid
  • methu siarad unrhyw Saesneg.

Mae sawl categori eang o gam-fanteisio sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern a gellir dod o hyd i'r rhain ar wefan yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.

Mae gan Heddlu Gwent eu tudalen penodol eu hun i Gaethwasiaeth Fodern ac mae’n cynnwys dolenni cyswllt defnyddiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth a chlipiau cyfryngau ar y mathau o gaethwasiaeth a masnachu mewn pobl. Mae eu hysbyseb teledu a'u hymgyrch bosteri wedi cael eu lansio i godi ymwybyddiaeth o arwyddion caethwasiaeth - gan gynnwys cyswllt cyfyngedig â theulu, cam-drin corfforol, diffyg ymddiriedaeth mewn awdurdod, diffyg ffrindiau a gweithredu fel petai nhw dan reolaeth rhywun arall.

Daw GOV.UK â dogfennau a deunyddiau hyrwyddol ynghyd, sy’n ymwneud â gwaith y llywodraeth i roi terfyn ar gaethwasiaeth fodern.

Mae Grŵp Gwrth-gaethwasiaeth Gwent - wedi darparu Papur Briffio Polisi (Mawrth 2018) sy’n dwyn ynghyd Fframweithiau Polisi a Chyfreithiol, Cadwyni Caffael a Chyflenwi, Canllawiau: MCC (NRM) a’r Ddyletswydd i Hysbysu, Canllawiau: MCC a’r Ddyletswydd i Hysbysu (Plant), Map Proses MCC Cymru a’r Ddyletswydd i Hysbysu, Canllawiau Pellach, Adolygiadau ac Adroddiadau.

Sut i roi gwybod am gaethwasiaeth

  • Argyfwng: 999
  • Achos nad yw’n argyfwng: 101
  • Crimestoppers: 0800 555 111
  • Llinell gymorth caethwasiaeth fodern: 0800 0121700
  • Cymorth i ddioddefwyr
  • Bawso: 0800-731 8147