Diogelu Oedolion
Mae diogelu oedolion yn ymwneud ag amddiffyn oedolion a allai fod mewn perygl o niwed er mwyn eu hatal nhw rhag dioddef camdriniaeth neu esgeulustod. Gall cam-drin ddigwydd yn unrhyw le a gall fod yn fwriadol ac yn anfwriadol. Busnes pawb yw diogelu oedolion ac mae'n cynnwys mesurau i atal camdriniaeth ac i ddiogelu iechyd, lles a hawliau pobl. Mae hefyd yn cynnwys galluogi oedolion i fyw yn rhydd o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.