Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)

Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn cynnwys yr holl gamau sy'n cynnwys tynnu organau cenhedlu benywod yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu gwneud anaf arall i organau cenhedlu benywod am resymau anfeddygol. Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU. Mae'n arfer sy'n digwydd ledled y byd mewn o leiaf 28 o wledydd Affrica ac mewn rhannau o'r Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell. Mae hefyd yn digwydd mewn rhannau o Orllewin Ewrop a gwledydd datblygedig eraill, yn bennaf ymhlith cymunedau mewnfudwyr a ffoaduriaid. Mae cymunedau yn y DU sydd mewn perygl o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn cynnwys menywod a merched Somalia, Kenya, Ethiopia, Sierra Leone, Sudan, yr Aifft, Nigeria, Eritrea, Yemen, Cwrdistan ac Indonesia.

Enwaedwyr traddodiadol sy’n cwblhau'r arfer yn bennaf ac maent yn aml yn chwarae rolau canolog eraill mewn cymunedau, fel mynychu genedigaethau plant. Mewn llawer o leoliadau, mae darparwyr gofal iechyd yn cwblhau'r weithred o anffurfio organau cenhedlu benywod oherwydd y gred anghywir bod y driniaeth yn fwy diogel os yw'n weithred feddygol.

Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel gweithred sy'n groes i hawliau dynol merched a menywod. Mae'n adlewyrchu anghydraddoldeb sydd wedi'i ymwreiddio'n ddwfn rhwng y rhywiau, ac mae'n fodd eithafol o wahaniaethu yn erbyn menywod. Mae bron bob amser yn cael ei wneud ar blant dan oed ac mae'n groes i’w hawliau. Mae'r arfer hefyd yn groes i hawliau iechyd, diogelwch ac urddas dynol, yr hawl i fod yn rhydd rhag artaith a thriniaeth greulon, annynol neu ddiraddiol, a'r hawl i fywyd pan fydd y driniaeth yn arwain at farwolaeth.

Cyfraith droseddol yng Nghymru a Lloegr

O dan adran 1 y ddeddf, mae person yn euog o drosedd Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod os yw'n trychu, yn gwaëgu neu anffurfio’r gweflau mwyaf, gweflau lleiaf neu glitoris merch neu fenyw a hynny'n gyfan neu'n rhannol. Mae trychu yn golygu cael gwared ar ran o'r clitoris neu'r clitoris yn gyfan gwbl a'r labia fewnol (gwefusau sy'n amgylchynu'r fagina), gan dynnu neu beidio â thynnu'r gweflau mwyaf (gwefusau allanol mwy). Mae gwaëgu yn golygu culhau agoriad y fagina trwy greu sêl, a ffurfir trwy dorri ac ail-leoli'r labia.

Mae Llywodraeth y DU wedi darparu Pecyn Adnoddau Anffurfio Organau Rhywiol Menywod sy'n cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth, astudiaethau achos, arferion ac adnoddau effeithiol ynghyd â chysylltiadau defnyddiol, llinellau cymorth a chlinigau.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu gwybodaeth a ffeithiau allweddol ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod gan gynnwys y gwahanol fathau o weithdrefnau ac arferion a ddefnyddir.

Cliciwch yma i lawr lwytho Cyflwyniad Gweledol ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a ddarperir gan Sefydliad Iechyd y Byd.