Hunan-niweidio a meddyliau hunanladdol

Hunan-niweidio

Hunan-niweidio yw'r enw a roddir ar unrhyw weithred fwriadol o hunan-niwed neu ymddygiad a fwriadwyd gan unigolyn i achosi niwed i'w gorff ei hun. Fel arfer mae'n digwydd ar ffurf torri neu losgi, ond gall gynnwys ymddygiadau hunanddinistriol fel yfed gormod a cheisio cyflawni hunanladdiad. - [Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid, Llywodraeth Cynulliad Cymru]

Meddyliau Hunanladdol

Mae'r diffiniad o hunanladdiad yn weithred sy'n ddibynnol ar fwriad. Bydd crwner yn dwyn rheithfarn o hunanladdiad os oes tystiolaeth glir, y tu hwnt i bob amheuaeth resymol bod yr unigolyn yn bwriadu lladd ei hun ac mai hynny oedd yr achos. Mae “syniadaeth hunanladdol” yn derm meddygol a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio cyflwr person sydd yn meddwl am hunanladdiad. Gall hyn amrywio o feddwl amdano ar un achlysur, i lunio cynllun manwl.

Os ydych chi'n poeni am berson a allai fod yn hunan-niweidio, yn meddwl am hunanladdiad neu'n siarad amdano, mae'r dolenni isod yn darparu ystod o wybodaeth a all eich helpu.

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

Zero Suicide Alliance - Mae Zero Suicide Alliance yn ymwneud â gwella cefnogaeth i bobl sy'n ystyried hunanladdiad trwy godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo hyfforddiant atal hunanladdiad sy'n hygyrch i bawb, y cyfan oll AM DDIM, gan gynnwys hyfforddiant am ddim sydd ar gael ar-lein.

Help Wrth Law - Adnodd i ddarparu cefnogaeth i bobl sydd yn wynebu profedigaeth oherwydd hunanladdiad neu farwolaeth heb esboniad, a’r rheini sy’n eu helpu

Samaritans - Mae llawer o adroddiadau defnyddiol gan y Samariaid ar y testun Hunanladdiad a dulliau eraill o gyfeirio am gymorth a chefnogaeth. Mae ganddynt becyn cymorth ‘Gweithio gyda Thosturi’ a all gynorthwyo staff pan fyddant yn siarad â rhywun sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael neu drallod emosiynol.

Iechyd Meddwl

Mind - elusen iechyd meddwl sydd o'r farn nad oes rhaid i unrhyw un wynebu problem iechyd meddwl ar eu pen eu hunain; maent yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor ac yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Maent yn darparu canllaw Iechyd Meddwl A-Y.

Amser i Newid - Mae Amser i Newid Cymru yn ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar y stigma y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu.

MHFA Wales - menter gymdeithasol sy’n darparu hyfforddiant mewn iechyd a lles meddyliol - cliciwch yma i’w dilyn ar Facebook

Ruby Wax Ted Talk - What’s so funny about mental health?

Pum Ffordd at Les - Mae'r Pum Ffordd at Les yn lles sy'n gyfwerth â 'phump o ffrwythau a llysiau y dydd ’. Argymhellir bod unigolion yn cynnwys y Pum Ffordd (a ddisgrifir yn y blychau isod) yn eu bywydau bob dydd i wella eu lles. Mae adnoddau ar gael i'w lawr lwytho fel ffeiliau PDF neu gallwch archebu copïau caled o'r adnoddau Pum Ffordd at Les o'r wefan.