Cam-drin domestig

Ystyr cam-drin domestig yw un unigolyn yn rheoli unigolyn arall mewn perthynas bersonol neu deuluol agos; gall y gamdriniaeth fod yn gamdriniaeth rywiol, gorfforol, ariannol, emosiynol neu seicolegol. (Llywodraeth Cymru 2018).

A oes angen help arnoch? Cliciwch am wybodaeth ar help a chymorth sydd ar gael isod.

Os ydych chi’n credu bod oedolyn neu blentyn mewn perygl uniongyrchol, peidiwch ag oedi ffoniwch 999.

Pwy sy’n dioddef cam-drin domestig?

Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un. Mae'r rhan fwyaf o gam-drin domestig yn cael ei gyflawni gan ddynion yn erbyn menywod, fodd bynnag mae menywod hefyd yn cam-drin dynion a gall aelodau eraill o'r teulu, fel plant hŷn / oedolion, brodyr a chwiorydd, neu aelodau o'r teulu estynedig gam-drin hefyd.

Gall cam-drin domestig hefyd effeithio’n negyddol ar blant p’un a ydynt yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol ai beidio, a/neu’n gweld, clywed neu’n ymyrryd mewn achos o gam-drin.

Creu mannau diogel i bobl siarad

Mae'n bwysig bod pobl a allai fod yn dioddef cam-drin domestig yn cael cyfleoedd i siarad, i ffwrdd o'r tramgwyddwr. Ni fydd pawb eisiau siarad, ond trwy ddarparu cyfleoedd diogel i bobl siarad, mae hyn yn golygu, pan fyddant yn barod, y gallwn helpu i sicrhau eu bod yn cadw'n ddiogel ac yn gallu eu helpu i gael yr help a'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.