Hysbysiad Preifatrwydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n cynnal y wefan hon ar ran Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent gyfan.

Manylion Cyswllt: Ar gyfer ymarferoldeb y Wefan yn unig - keri.gould@torfaen.gov.uk. Ar gyfer gwaith Diogelu - gwentsafeguarding@caerphilly.gov.uk  
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Gwefan Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent gyfan

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os ydych yn dymuno mynegi pryder ynglŷn â'r ffordd y mae’r wefan yn trin eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am Fwrdd Diogelu Oedolion Gwent gyfan a Bwrdd Diogelu Plant De-ddwyrain Cymru, sef y Byrddau partneriaeth amlasiantaethol statudol sy'n gyfrifol am sicrhau bod diogelu wrth wraidd yr holl wasanaethau a ddarperir ledled y rhanbarth.

Nid yw'r wefan hon yn casglu data unigol - os oes gennych bryderon diogelu yn ymwneud ag unigolyn, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yr ardal Awdurdod Lleol perthnasol. Gellir dod o hyd i’w manylion cyswllt ar y tabiau ‘Rhoi gwybod am blentyn sydd mewn perygl’ neu ‘Rhoi gwybod am oedolion sydd mewn perygl'. 

Cysylltwch ag Uned Fusnes Diogelu Gwent am bob mater sy'n ymwneud â gwaith y Byrddau Diogelu Plant ac Oedolion.

E-bost: gwentsafeguarding@caerphilly.gov.uk 
Ffôn: 01443 863090

Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?

Nid yw gwefan Diogelu Gwent yn casglu gwybodaeth. Mae'n ffynhonnell wybodaeth i aelodau o'r cyhoedd.

Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?

Nid yw gwefan Diogelu Gwent yn cynnig cyfleuster ar gyfer casglu data.

Pa wybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi ?

Mae gwefan Diogelu Gwent yn casglu:

  • Cyfeiriadau IP yn unig.

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol ?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.

Data personol categori arbennig

Dydyn ni ddim yn casglu unrhyw ddata categori arbennig neu ddata troseddol.

Pwy sy’n cael mynediad at eich data?

Mae eich data yn cael ei rannu'n fewnol gyda'r staff priodol yn unig, lle mae' n angenrheidiol iddynt gyflawni eu rolau.

Ydy’r data’n cael ei drosglwyddo allan o’r DU?

Nac ydy

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio’n ddamweiniol, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu. Cyfyngir ar fynediad at y data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol, a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data?

Nac ydyn

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Yr hawl i fynediad – i gael copi o’ch data ar gais
  • Yr hawl i gywiro – ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor newid data sy’n anghywir neu’n anghyflawn
  • Yr hawl i wrthwynebu, cyfyngu neu ddileu – o dan rai amgylchiadau gallwch ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddileu eich data, neu i beidio â’i brosesu, er enghraifft pan nad yw’r data’n angenrheidiol mwyach at ddibenion prosesu
  • Yr hawl i gludo data – i gael a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (lle rhoddwyd caniatâd)
  • Yr hawl i wybod beth yw canlyniadau methu â rhoi data i’r Cyngor
  • Yr hawl i gael gwybod am unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a chanlyniadau hyn i chi.
  • Yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech holi am unrhyw un o'r hawliau hyn mewn perthynas â data, cysylltwch ar: gwentsafeguarding@caerphilly.gov.uk neu ffonio: 01443 863090

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost: Wales@ico.org.uk.