Troseddau Casineb
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a ystyrir gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall, yn un sy'n cael ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar
- Hil neu hil dybiedig;
- Crefydd neu grefydd dybiedig;
- Cyfeiriadedd Rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig;
- Anabledd neu anabledd tybiedig
- Hunaniaeth drawsrywiol neu hunaniaeth drawsrywiol tybiedig
Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n teimlo eich bod wedi dioddef trosedd o ganlyniad i gael eich targedu ar gyfer un o'r meysydd uchod, gallwch ei adrodd i ni neu'r heddlu fel trosedd casineb.
Rhoi Gwybod am Gasineb – Cymorth i Ddioddefwyr - Nod Cymorth i Ddioddefwyr yw gwneud pethau'n haws i'r rhai sy'n dioddef troseddau casineb drwy eirioli gyda'r heddlu a'r adran tai lle gallant helpu i wneud i bobl deimlo'n ddiogel eto o ran diogelwch personol a diogelwch yn y cartref ac atgyfeirio pobl at asiantaethau eraill i sicrhau bod y cymorth orau yn ei le
StopHateUk.org - gwefan ddefnyddiol gyda dolenni cyswllt a gwybodaeth ar droseddau casineb
Heddlu Gwent - mae ganddynt eu tudalen pwrpasol eu hunain ar droseddau casineb