Priodasau dan Orfod (FM)

Priodas dan orfod yw pan nad yw un person, neu'r ddau (neu mewn achosion o bobl ag anableddau dysgu, yn methu) yn cytuno i briodi ac o ganlyniad byddant yn cael eu rhoi dan bwysau a chael eu cam-drin. Mae priodasau dan orfod yn digwydd mewn llawer o grefyddau a chenedligrwydd ac nid yw'n effeithio ar ferched yn unig - gall bechgyn hefyd gael eu gorfodi i briodi. Gall hefyd ddigwydd i blant ac oedolion. Gall gwrthod priodi rhywun a ddewisir gan y teulu gael ei ystyried yn gywilyddus a gall hynny arwain at drais yn seiliedig ar anrhydedd.

Mae Priodas dan Orfod yn cael ei gydnabod yn y DU fel math o drais yn erbyn menywod a dynion, cam-drin domestig / plant a cham-drin ac yn fodd o gam-drin hawliau dynol yn ddifrifol. Yn y DU cydnabyddir Priodas dan Orfod fel priodas a gynhelir heb ganiatâd un neu'r ddau unigolyn a lle mae gorfodaeth yn ffactor. Mae Priodas dan Orfod yn drosedd benodol dan a121 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Cyn cyflwyno'r ddeddf, roedd erlynwyr yn delio ag achosion o Briodas dan Orfod gan ddefnyddio deddfwriaeth a oedd yn bodoli, fel carcharu ar gam, herwgipio a throseddau trais lle mae hyn yn un o nodweddion y drosedd.

Mae priodas dan orfod yn fath o gam-drin ac yn groes i hawliau dynol. Y Swyddfa Gartref a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n gyfrifol am bolisi sy'n ymwneud â phriodas dan orfod. Maent wedi sefydlu'r Uned Priodasau dan Orfod a'i rôl yw darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr sy'n wynebu priodas dan orfod a darparu cyngor i weithwyr proffesiynol sy'n ymdrin ag achosion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.