Beth yw cam-drin?
Cam-drin yw pan fydd unrhyw unigolyn neu unigolion yn torri ar hawliau dynol a sifil unigolyn arall. Gall y gamdriniaeth amrywio o drin rhywun yn amharchus mewn ffordd sy'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd yr unigolyn, i achosi dioddefaint corfforol gwirioneddol.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn datgan bod:
- “cam-drin” yn golygu camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol neu ariannol sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn cartref preifat, sefydliad neu unrhyw le arall
- Mae “esgeuluso” yn golygu methu i fodloni anghenion sylfaenol corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol unigolyn, sy’n debygol o arwain at effeithio ar les yr unigolyn.
Gall camdriniaeth ddigwydd mewn sawl ffordd, y mae’r mwyaf cyffredin ohonynt wedi eu rhestru isod: