Llinellau Sirol
Beth yw camfanteisio llinellau sirol?
Mae llinellau sirol yn fater trawsbynciol sylweddol sy'n cynnwys cyffuriau, trais, gangiau, diogelu, cam-fanteisio’n droseddol ac yn rhywiol, caethwasiaeth fodern, a phobl sydd ar goll; ac mae'r ymateb i fynd i'r afael ag ef yn cynnwys yr heddlu, yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol, ystod eang o adrannau'r Llywodraeth, asiantaethau llywodraeth leol a sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol.
Er y gall Llinellau Sirol effeithio ar unrhyw blentyn neu berson ifanc dan 18 oed, gall hefyd effeithio ar unrhyw oedolion sy'n agored i niwed dros 18 oed.:
- gall fod yn gamfanteisio hyd yn oed os yw'r gweithgaredd yn ymddangos yn gydsyniol;
- gall gynnwys grym a/neu ddulliau cydymffurfio sy'n seiliedig ar ddenu, ac yn aml mae trais neu fygythiadau o drais yn digwydd ochr yn ochr ag ef;
- gall unigolion neu grwpiau, dynion neu fenywod, a phobl ifanc neu oedolion gyflawni hyn; a’r
- hyn sy'n nodweddiadol ohono yw bod ganddo ryw fath o anghydbwysedd o ran pŵer o blaid y rhai sy'n cam-fanteisio. Er mai oedran yw'r un mwyaf amlwg, gall yr anghydbwysedd pŵer hwn fod oherwydd amrywiaeth o ffactorau eraill gan gynnwys rhyw, gallu gwybyddol, cryfder corfforol, statws, a mynediad at adnoddau economaidd neu adnoddau eraill.
I gael mwy o wybodaeth am Linellau Sirol gweler:
Canllawiau’r Swyddfa Gartref: Camfanteisio Troseddol ar Blant ac Oedolion Bregus: Canllawiau Llinellau Sirol - Medi 2018
Adroddiad Briffio'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol: Cyflenwi Cyffuriau, Bregusrwydd a Niwed Llinellau Sirol 2018