Rhoi gwybod am oedolyn sydd mewn perygl

Os ydych chi'n pryderu am achos neu achos posibl o gam-drin neu esgeuluso, yna cysylltwch â'r gwasanaethau cymdeithasol i siarad am y pryder. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn rhoi gwybod am y pryder a pheidiwch â phoeni os ydych chi'n meddwl y gallai fod yn anghywir - mae'n bwysig i rywun â phrofiad a chyfrifoldeb edrych ar y mater. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny.

Os ydych chi'n cael eich cam-drin neu os oes rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei gam-drin ac mewn perygl uniongyrchol, mae angen i chi wneud rhywbeth ar unwaith i'w hatal hwy neu eraill rhag cael eu brifo. Dylech ffonio 999 a dweud wrth y gweithredwr beth sy'n digwydd.

Os credwch y gallai trosedd fod wedi digwydd, fel trais rhywiol, ymosodiad neu ladrad, ffoniwch yr heddlu a byddwch yn ofalus i beidio â symud na dinistrio unrhyw dystiolaeth.

Os ydych chi'n poeni am gysylltu â'r heddlu gallwch chi bob amser gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol i siarad drwy bethau yn gyntaf.

Ble bynnag yr ydych chi'n byw, boed yn gartref gofal, yn eich cartref eich hun neu pa le bynnag yr ydych wedi ymweld ag ef, fel ysbyty, canolfan iechyd neu goleg a'ch bod wedi profi neu wedi gweld sefyllfa gamdriniol, gallwch ffonio eich swyddfa gwasanaethau cymdeithasol leol am gymorth a chyngor.

Nid oes rhaid i chi ddweud pwy ydych chi ond efallai y bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i ni ymchwilio, a'ch diogelu chi neu'r person sy'n cael ei gam-drin.

Os ydych chi'n teimlo'n nerfus ynghylch siarad â'r gwasanaethau cymdeithasol, gallech ofyn i rywun siarad â ni ar eich rhan. Gallai hyn fod yn nyrs, yn ofalwr, yn eiriolwr neu'n ffrind neu berthynas rydych chi'n ymddiried ynddo.

Os ydych chi'n poeni am gamdriniaeth neu esgeuluso, cysylltwch â'r canlynol:

Blaenau Gwent
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk

Caerffili
Ffôn: 0808 100 2500
E-bost: IAAAdults@caerphilly.gov.uk

Torfaen
Ffôn: 01495 762200
E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Casnewydd
Ffôn: 01633 656656
E-bost: firstcontact.adults@newport.gov.uk or pova.team@newport.gov.uk

Sir Fynwy
Ffôn: 01873 735492
E-bost: MCCadultsafeguarding@monmouthshire.gov.uk

Os yw'n argyfwng a bod angen i chi gysylltu â ni y tu allan i oriau swyddfa ffoniwch ein Tîm Dyletswydd Brys ar 0800 328 4432.

Beth fydd yn digwydd os byddwch chi'n rhoi gwybod am y cam-drin?

Byddwn yn rhoi'r cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i wneud unrhyw benderfyniadau a byddwn yn eich helpu i gymryd camau i ddod â'r cam-drin i ben a sicrhau nad yw'n digwydd eto.

Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn cael ei drin yn sensitif ond mae'n rhaid i ni ddweud wrth bobl eraill i'n helpu i ymchwilio i'r pryder.

Os caiff y cam-drin ei hadrodd i'r gwasanaethau cymdeithasol, efallai y byddwn yn trefnu i gynnal ymchwiliad a fydd yn dilyn y canllawiau a nodir ym Mholisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed rhag cael eu Cam-drin (Ionawr 2013) Gall hyn gynnwys nifer o asiantaethau e.e. gwasanaethau iechyd a'r heddlu. Yna cymerir camau i sicrhau eich bod chi (neu'r person sy'n cael ei gam-drin) yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol.

Ffurflen Dyletswydd i Adrodd

Mae'r Ffurflen Dyletswydd i Adrodd yn ddogfen ffurfiol i'w defnyddio gan weithwyr proffesiynol fel arfer; fodd bynnag, gall unrhyw un wneud atgyfeiriad. “Adrodd” yw adrodd yn uniongyrchol ar honiad, pryder neu ddatgeliad i sefydliad statudol fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu neu Iechyd. Mae'n bryder sy'n cael ei gofnodi'n ffurfiol ar Ffurflen, a dyma ddechrau'r broses ffurfiol o amddiffyn oedolion.

Wrth ystyried a ddylid cyflwyno Adroddiad, cyfeiriwch at y ddogfen ‘Diogelu Oedolion - Adrodd neu Ddim i Adrodd’ a fydd yn rhoi arweiniad defnyddiol i chi ar y penderfyniad hwn.

Pwy all fod yn "Oedolyn mewn perygl"

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod “oedolyn mewn perygl” yn oedolyn sydd:

  • yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso,
  • oedolyn ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw rhai o’r anghenion hynny ai peidio), ac
  • o ganlyniad yr anghenion hynny nid yw’n medru amddiffyn ei hun yn erbyn y cam-drin yr esgeuluso neu’r perygl ohonynt

Os ydych chi’n pryderi am blentyn mewn perygl ewch i dudalen Rhoi Gwybod am Blentyn mewn Perygl