Trais ar Sail Anrhydedd (HBV)
Mae trais ar sail anrhydedd (HBV) yn drosedd neu ddigwyddiad treisgar a all gael ei gyflawni i amddiffyn neu warchod anrhydedd y teulu neu'r gymuned.
Yn aml mae'n gysylltiedig ag aelodau o'r teulu neu berthynas sy'n credu bod rhywun wedi dod â chywilydd ar eu teulu neu gymuned trwy wneud rhywbeth nad yw'n cyd-fynd â chredoau traddodiadol eu diwylliant. Er enghraifft, gellir cyflawni trais ar sail anrhydedd yn erbyn pobl sydd:
- yn canlyn bachgen neu ferch o ddiwylliant neu grefydd arall
- am dynnu allan o briodas a drefnwyd ar eu rhan
- am dynnu allan o briodas dan orfod
- yn gwisgo dillad neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddent efallai yn cael eu hystyried yn draddodiadol o fewn diwylliant penodol.
Menywod a merched sy'n dioddef trais ar sail anrhydedd fel arfer, ond gall hefyd effeithio ar ddynion a bechgyn. Nid yw troseddau ‘anrhydedd’ bob amser yn cynnwys trais. Gellir cyflawni troseddau yn enw ‘anrhydedd’ a gallant gynnwys:
- cam-drin domestig
- bygythiadau o drais
- cam-drin rhywiol neu seicolegol
- priodas dan orfod
- cael eich cadw yn erbyn eich ewyllys neu gael eich dwyn i rywle nad ydych am fynd iddo
- ymosodiad
Nid oes diffiniad statudol o Drais ar sail Anrhydedd ac nid oes un achos penodol o “drais ar sail anrhydedd” ”. Mae'n derm ymbarél i gwmpasu amrywiol droseddau dan ddeddfwriaeth bresennol. Gellir disgrifio trais ar sail anrhydedd fel casgliad o arferion, a ddefnyddir i reoli ymddygiad o fewn teuluoedd neu grwpiau cymdeithasol eraill i ddiogelu credoau a / neu anrhydedd diwylliannol a chrefyddol tybiedig. Gall trais o'r fath ddigwydd pan fydd tramgwyddwyr yn credu bod perthynas wedi dod â chywilydd ar y teulu a / neu'r gymuned trwy dorri eu cod anrhydedd. Mae mathau eraill o drais ar sail anrhydedd yn cynnwys arferion a gyflawnir gan droseddwyr ar ddioddefwyr am resymau diwylliannol neu gymdeithasol- gonfensiynol sydd â chanlyniadau niweidiol. Mae rhai o'r arferion hyn yn cynnwys (ni ddylid ystyried bod y rhestr hon yn gyflawn: Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod; Smwddio Bronnau; a cham-drin gwaddol.
I gael gwybodaeth bellach a chymorth gyda materion sy’n gysylltiedig â Thrais ar Sail Anrhydedd, Priodas dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ewch i wefan Byw Heb Ofn.