Camfanteisio ar Blant

Mae cam-fanteisio ar blant yn cyfeirio at ddefnyddio plant er boddhad, ac i fantais rhywun arall ac yn aml gall arwain at driniaeth annheg, greulon a niweidiol i'r plentyn. Mae'r gweithgareddau hyn ar draul iechyd corfforol neu feddyliol, addysg, datblygiad moesol, emosiynol neu gymdeithasol y plentyn. Mae'n cynnwys sefyllfaoedd o ddefnyddio/dylanwadu, camddefnyddio, cam-drin, erledigaeth, llethu neu drin yn wael.

Cydnabyddir bod dau brif fath o gam-fanteisio ar blant: Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a Chamfanteisio'n Droseddol ar Blant.

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)

Cam-drin sefyllfa lle mae yna fregusrwydd, pŵer gwahaniaethol, neu ymddiriedaeth at ddibenion rhywiol; mae hyn yn cynnwys elwa'n ariannol, yn gymdeithasol neu'n wleidyddol drwy gam-fanteisio ar rywun yn ogystal â chael boddhad rhywiol.

Enghreifftiau: Defnyddio plant mewn gwaith rhyw, masnachu mewn plant am resymau cam-drin rhywiol a cham-fanteisio, pornograffi plant, caethwasiaeth rhywiol.

Cliciwch yma i weld tudalennau pwrpasol sy’n egluro mwy am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE).

Camfanteisio’n Droseddol ar Blant (CCE)

Defnyddio'r plentyn mewn gwaith neu weithgareddau eraill er budd eraill. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig, i lafur plant. Mae camddefnyddio economaidd yn awgrymu syniad o ennill neu greu elw penodol trwy gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio nwyddau a gwasanaethau. Mae'r diddordeb materol hwn yn effeithio ar economi uned benodol, boed y Wladwriaeth, y gymuned neu'r teulu.

Enghreifftiau: Plant yn gwneud gwaith domestig, plant sy'n filwyr, recriwtio a chynnwys plant mewn gwrthdaro arfog, caethiwo plant, defnyddio plant mewn gweithgareddau troseddol, gan gynnwys gwerthu a dosbarthu cyffuriau, cynnwys plant mewn unrhyw waith niweidiol neu beryglus.

Gelwir cam-fanteisio troseddol hefyd yn 'linellau sirol' ac mae'n golygu bod gangiau a rhwydweithiau troseddau cyfundrefnol yn cam-fanteisio ar blant i werthu cyffuriau. Yn aml gwneir y plant hyn i deithio ar draws siroedd, ac maent yn defnyddio 'llinellau' ffôn symudol pwrpasol i gyflenwi cyffuriau.

Mae mwy o fanylion am linellau Sirol ar gael yma.