Magu perthynas amhriodol

Mae magu perthynas amhriodol yn digwydd pan fydd rhywun yn meithrin cysylltiad emosiynol â phlentyn i'r pwynt y bydd y plentyn yn ymddiried ynddo, a hynny at ddibenion cam-drin rhywiol, cam-fanteisio ar blant neu fasnachu pobl.

Gall plant a phobl ifanc gael eu paratoi am berthynas amhriodol ar-lein neu wyneb yn wyneb, gan ddieithryn neu gan rywun y maent yn ei adnabod - er enghraifft aelod o'r teulu, ffrind neu weithiwr proffesiynol.

Gall y rheini sydd am fagu perthynas amhriodol fod yn ddynion neu fenywod. Gallant fod unrhyw oedran.

Nid yw llawer o blant a phobl ifanc yn deall eu bod wedi cael eu paratoi am berthynas amhriodol neu mai cam-drin yw'r hyn sydd wedi digwydd.

Mae bellach yn drosedd dan adran 67 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 ers y 3ydd o Ebrill 201 i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn gyfathrebu'n fwriadol â phlentyn o dan 16 oed, lle mae'r person yn gweithredu at ddiben rhywiol a bod y cyfathrebu hwnnw'n rhywiol neu'n bwriadu denu ymateb rhywiol. Mae'r drosedd yn berthnasol i gyfathrebu ar-lein ac oddi arno, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, e-byst, negeseuon testun, llythyrau, ac ati.

Mae Craven, Brown and Gilchrist, (2006) wedi diffinio magu perthynas amhriodol fel:

"Proses lle mae person yn paratoi plentyn, pobl eraill arwyddocaol a'r amgylchedd i gam-drin y plentyn hwn. Mae nodau penodol yn cynnwys cael mynediad i'r plentyn, sicrhau cydymffurfiad y plentyn a sicrhau bod y plentyn yn cadw'r gyfrinach i osgoi datgelu. "

NSPCC - maent yn darparu gwybodaeth am arwyddion magu perthynas amhriodol a sut i ddiogelu plant rhag y posibilrwydd o gael eu denu at berthynas amhriodol

Thinkuknow - rhoi cyngor i atal magu perthynas amhriodol a rhoi eglurhad i'r 3 phrif gam o feithrin perthynas amhriodol; adeiladu perthynas, ennill pŵer dros y plentyn ac yn olaf, cadw'r cam-drin yn gyfrinach.