Profiadau niweidiol mewn plentyndod (ACEs)
Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn ddigwyddiadau trawmatig sy'n effeithio ar blant wrth iddynt dyfu i fyny. Gall y rhain gynnwys dioddef camdriniaeth neu fyw mewn aelwyd sy'n teimlo effaith cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl.
Isod ceir amrywiaeth o ddolenni i glipiau cyfryngau, adroddiadau ymchwil a chyflwyniadau sy'n darparu gwybodaeth a sail tystiolaeth i effeithiau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Clip cyfryngau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod - Datblygwyd y ffilm animeiddiedig fer hon i godi ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, eu potensial i niweidio iechyd ar hyd bywyd a'r rolau y gall gwahanol asiantaethau eu chwarae i atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt.
Cyhoeddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru
Perthynas rhwng iechyd yn ystod plentyndod ac absenoldebau ysgol - Inffograffig (Medi 2018)
Ace Aware Wales - Mae Canolfan Gymorth ACE wedi'i sefydlu gan gydweithfa wirfoddol o sefydliadau o'r enw Cymru Well Wales, i'ch cynorthwyo i wneud newidiadau sy'n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u hatal. Trwy weithio gyda chi, ein cenhadaeth yw rhannu syniadau a dysg, a herio a newid ffyrdd o weithio felly gyda'n gilydd, byddwn yn chwalu'r cylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod - gan Jan Bond Iechyd Cyhoeddus Lloegr – Egluro Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Straen Gwenwynig, effaith trawma a thrafod ataliad, ymyrraeth gynnar a lleddfu Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Clip gan Iechyd Gwladol Yr Alban ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod - Mae GIG Yr Alban wedi cynhyrchu'r animeiddiad byr hwn i gyfrannu at godi ymwybyddiaeth am effaith trallod yn ystod plentyndod. Maent yn gobeithio y gall ysgogi trafodaeth ynghylch pa gamau y gellir eu cymryd i atal ac ymateb i drallod cynnar.