Llinellau sirol

Beth yw camfanteisio drwy linellau sirol?

Mae llinellau sirol yn fater trawsbynciol sylweddol sy'n cynnwys cyffuriau, trais, gangiau, diogelu, cam-fanteisio’n droseddol ac yn rhywiol, caethwasiaeth fodern, a phobl sydd ar goll; ac mae'r ymateb i fynd i'r afael ag ef yn cynnwys yr heddlu, yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol, ystod eang o adrannau'r Llywodraeth, asiantaethau llywodraeth leol a sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol.

Cliciwch yma i weld clip cyfryngau sy’n egluro ‘beth yw llinellau sirol?’’, a baratowyd gan Brifysgol Greenwich.

Mae Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn gyffredin drwy linellau sirol ac mae'n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn manteisio ar anghydbwysedd o ran grym i orfodi, rheoli, trin neu dwyllo plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed. Efallai y cam-fanteisiwyd yn droseddol ar y dioddefwr hyd yn oed os ymddengys bod y gweithgaredd yn gydsyniol. Nid yw Camfanteisio'n Droseddol ar Blant bob amser yn cynnwys cyswllt corfforol; gall hefyd ddigwydd trwy ddefnyddio technoleg.

I gael mwy o wybodaeth am Linellau Sirol gweler:

Canllawiau'r Swyddfa Gartref: Camfanteisio’n Droseddol ar blant ac oedolion agored i niwed: Canllawiau Llinellau Sirol – Medi 2018

Adroddiad Briffio'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol: Cyflenwi Cyffuriau Bregusrwydd a Niwed Llinellau Sirol 2018

Pecyn Cymorth Cymdeithas y Plant: Pecyn cymorth ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n cael eu masnachu at ddibenion cam-fanteisio troseddol mewn perthynas â Llinellau Sirol - Rhagfyr 2017