Camfanteisio'n rhywiol ar blant

Os yw unigolyn dan 18 oed yn cael ei orfodi i gyflawni gweithred rhywiol gan un person neu fwy sydd wedi ei dargedu am ei fod yn ifanc a dibrofiad, a hynny'n fwriadol er mwyn ymarfer pŵer drostynt, gelwir hyn yn cam-fanteisio’n rhywiol.

Mae'r broses yn aml yn cynnwys cam o 'baratoi' neu feithrin perthynas amhriodol, lle gallai'r plentyn dderbyn rhywbeth (fel ffôn symudol, dillad, cyffuriau neu alcohol, sylw neu anwyldeb) cyn, neu o ganlyniad i, gyflawni gweithgareddau rhywiol, neu adael i rywun gyflawni gweithred rywiol arnynt. Er bod pob achos yn wahanol, mae yna wahanol fodelau o ‘baratoi’ neu feithrin perthynas amhriodol.

Gall camfanteisio’n rhywiol ar blant ddigwydd drwy ddefnyddio technoleg heb ganiatâd y plentyn neu heb i’r plentyn gydnabod bod hyn yn digwydd ar unwaith; er enghraifft drwy berswadio plentyn i bostio lluniau rhywiol dros y rhyngrwyd neu ar ffôn symudol.

Yn aml bydd cam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn digwydd gyda thrais gwirioneddol neu fygythiad o drais. Gall hyn fod yn fygythiadau tuag at y plentyn, neu ei deulu a gall atal y plentyn rhag datgelu'r cam-drin, neu adael y cylch cam-fanteisio. Yn wir, efallai y bydd y broses yn drysu'r plentyn i'r pwynt nad yw'n gweld unrhyw gam-drin o gwbl.