Dewiniaeth a meddiannu gan ysbryd

Mae credu mewn ysbrydion a chael eich meddiannu gan ysbryd yn rhywbeth helaeth. Nid credoau'r teulu ydynt mewn achosion o gam-drin, ond yn hytrach y sawl sy'n cam-drin yn defnyddio'r credoau hyn i gyfiawnhau pam eu bod yn cam-drin y plentyn. Mae angen i ymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth o gredoau crefyddol ac arferion diwylliannol er mwyn helpu i ennill ymddiriedaeth y plentyn, y teulu a'r gymuned.

Mae Canllaw Llywodraeth Cymru i Weithwyr Proffesiynol: ar Ddiogelu Plant rhag Camdriniaeth Sy’n Gysylltiedig â Chredu mewn Meddiant gan Ysbryd (Mai 2008) yn cynnig diffiniadau, achosion a gwybodaeth ar adnabod y math hwn o gam-drin plant.

Diffiniad

Diffinnir y term ‘credu mewn meddiant gan ysbryd’ fel y gred bod ysbryd drwg wedi meddiannu plentyn a’i fod yn ei rheoli. Weithiau defnyddir y term ‘gwrach’ yn y gred bod y plentyn yn gallu defnyddio grym drwg i achosi niwed i eraill.

Gall teuluoedd a phlant fod yn bryderus iawn am y drwg y maent yn credu sy'n eu bygwth, ac mae cam-drin yn digwydd yn aml pan wneir ymgais i 'fwrw allan', y drwg neu 'rhyddhau'r plentyn. Diffinnir 'bwrw allan' yma fel ceisio ddiarddel ysbrydion drwg o’r plentyn.

Gall y cam-drin ddigwydd ar yr aelwyd lle mae'r plentyn yn byw neu mewn man addoli lle ceir y 'diagnosis' honedig a lle gellir 'bwrw allan' neu 'waredu' ar y drwg.

Nid yw'r math hwn o gam-drin wedi'i gyfyngu i wledydd, diwylliannau, crefyddau neu gymunedau penodol. Gall y sawl sy'n cam-drin ymddangos yn gyffredin a gallant fod yn aelodau o'r teulu, ffrindiau i'r teulu, gofalwyr, arweinwyr ffydd neu ffigurau eraill yn y gymuned. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau cyffredin sy'n rhoi plentyn mewn perygl o niwed:

  • Rhesymoli anffawd trwy ei briodoli i rymoedd ysbrydol
  • Plentyn yn cael ei feio oherwydd gwahaniaeth amlwg neu ganfyddedig
  • Gwir gred mewn 'ysbrydion drwg' ynghyd â chred y gallai'r plentyn 'heintio' eraill â 'drwg' o'r fath.
  • Ffactorau cymdeithasol fel newidiadau i strwythur neu ddeinameg teulu
  • Teulu wedi'i siomi â bywyd neu brofiad negyddol o ymfudo
  • Salwch meddwl rhiant neu ofalwr gan gynnwys anhwylder straen yn dilyn trawma neu iselder.

Effaith ar y plentyn

Gall yr effaith ar y plentyn fod ar sawl ffurf, sy'n dod o dan y categorïau cyffredinol o gam-drin plant fel newyn, peri unigrwydd, curo, gweinyddu sylweddau a llawer o rai eraill. Mae angen i ymarferwyr fod yn effro, arsylwi ar batrymau a chlywed yr hyn y gall y plentyn fod yn ei ddweud.

Efallai y bydd y plentyn yn dod i gredu ei fod wedi'i feddiannu a gallai hyn fod yn niweidiol ynddo'i hun, a chymhlethu unrhyw fodd o weithio gydag ef.

Mae rhai gofalwyr a rhieni yn credu y gall plentyn drosglwyddo ysbryd drwg i blentyn heb ei eni, a bydd angen i ymarferwyr gofio y gallai fod angen asesiad cyn-geni, ac y gallai plant sy'n cael eu geni yn y cartref fod yn agored i niwed.

Atgyfeirio ac Asesu

Dylai ymarferwyr wneud atgyfeiriad i Ofal Cymdeithasol Plant, os oes pryderon am beryglon i blentyn, a thrwy fod yn sensitif i gredoau diwylliannol neu grefyddol, ni ddylid byth anghofio'r ffocws ar y plentyn.

Ymchwil a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau (2006) ar Gam-drin Plant sy’n gysylltiedig â Chyhuddiadau o feddiant gan ysbryd a Dewiniaeth - Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar amlder a difrifoldeb cam-drin plant sy'n gysylltiedig â chyhuddiadau o "feddiant" a "dewiniaeth". Mae'n nodi nodweddion allweddol sy'n gyffredin i'r achosion hyn, ac mae’n llunio casgliadau ac yn gwneud argymhellion.