Cam-drin proffesiynol
Mae profiad yn dangos y gall pobl gael eu cam-drin a'u hecsbloetio gan y rhai sy'n gweithio gyda nhw mewn unrhyw gyd-destun. Mae'n hanfodol, pan fyddwn yn tystio neu'n amau bod rhywun mewn rôl broffesiynol neu rôl wirfoddol, ddi-dâl yn gweithredu'n amhriodol tuag at blentyn neu oedolyn, ein bod yn rhoi gwybod am hyn.
Rydym yn aml yn gweld penawdau am bobl mewn rôl broffesiynol sydd wedi ymddwyn mewn ffordd ddifrïol. Mae angen mynd i'r afael â'r pryderon hyn yn yr un modd â'r holl bryderon honedig am gam-drin neu niwed a'u hadrodd yn unol â hynny. Mae'n bwysig peidio â diystyru pryderon oherwydd bod rhywun mewn rôl gyfrifol neu'n rhywun y dylai person allu ymddiried ynddo.
Beth yw camddefnyddio rôl gyfrifol y dylai person allu ymddiried ynddo?
Mae deddfwriaeth troseddau rhywiol eisoes yn datgan bod unrhyw weithgaredd rhywiol sy'n ymwneud â phlant dan 16 oed yn anghyfreithlon. Y prif gymhelliant ar gyfer deddfwriaeth sy'n mynd i'r afael â chamddefnyddio rolau y dylai unigolion allu ymddiried ynddynt yw'r angen i amddiffyn pobl ifanc 16 a 17 oed sydd, er eu bod wedi cyrraedd oedran y gallant ganiatáu i weithgarwch rhywiol, yn cael eu hystyried yn agored i gam-drin rhywiol a chamfanteisio, mewn amgylchiadau penodol . Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch rhywiol a pherthnasoedd ag oedolion cyfrifol, sydd mewn awdurdod neu'r sefyllfa y dylid fod yna allu i ymddiried ynddynt, ac o ganlyniad, mae ganddynt lawer o bŵer a dylanwad yn eu bywydau. Mae'r gyfraith yn diffinio rolau a lleoliadau penodol lle mae gweithgarwch rhywiol rhwng pobl ifanc 16 a 17 oed a'r rhai â chyfrifoldeb, awdurdod, ac sydd mewn swyddi y dylai unigolion allu ymddiried ynddynt, yn gyfystyr â throsedd.
Enghreifftiau o rolau penodol:
- athrawon
- gofalwyr maeth
Enghreifftiau o leoliadau penodol
- sefydliadau addysgol
- cartrefi gofal preswyl
- ysbytai
- sefydliadau i droseddwyr ifanc
Gall pobl sydd yn y rolau hyn neu sy'n gweithio mewn lleoliadau o'r fath fod mewn swyddi sy'n galw am ymddiriedaeth, bydd fel arfer ganddynt bŵer ac awdurdod ym mywyd person ifanc, a gall fod ganddynt ddylanwad allweddol yn eu dyfodol. Byddant yn dod i gysylltiad rheolaidd â'r person ifanc, a gallant fod yn gweithredu yn lle’r rhiant.