Categorïau a Diffiniadau o gam-drin

Caiff plentyn ei gam-drin neu ei esgeuluso pan fo rhywun yn peri niwed iddo, neu’n methu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol gan y rheini sy’n eu nabod neu, go brin, gan ddieithryn. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed ddioddef cam-drin neu esgeuluso a bydd angen ei amddiffyn drwy gynllun amddiffyn plant amlasiantaethol.