Ffugio salwch

Mae ffugio salwch neu greu salwch (FII) yn ffurf o gam-drin sy’n anghyffredin. Mae'n digwydd pan fydd rhiant neu ofalwr, mam fiolegol y plentyn fel arfer, yn gor-ddweud neu'n achosi symptomau salwch yn fwriadol i’r plentyn.

Mae FII hefyd yn cael ei adnabod fel "Munchausen's syndrome by proxy" (ni ddylid drysu rhyngddo a syndrom Munchausen, lle mae person yn esgus bod yn sâl neu achosi salwch neu anaf iddo’i hun).

Mae GIG Cymru yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o salwch wedi ei ffugio/achosi gan eraill yn cynnwys adnabod yr arwyddion, achosion a’r hyn sy’n digwydd os amheuir ac adroddir achosion o’r fath.