Diogelu Plant
Mae diogelu plant yn ymwneud â diogelu plant sydd angen gofal a chymorth rhag camdriniaeth neu esgeulustod ac atal unrhyw risg o gam-drin, esgeuluso neu fathau eraill o niwed. Busnes pawb yw diogelu lles plant a phobl ifanc. Mae hyn yn golygu bod yn ddiogel gyda'r rhai y maen nhw'n byw gyda nhw, ac sy'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanyn nhw, yn ogystal â bod yn ddiogel mewn amgylcheddau y tu allan i'r cartref lle gallan nhw fyw, teithio, chwarae, dysgu, gweithio neu wneud chwaraeon.