Pwy sydd mewn perygl?
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi mai "oedolyn mewn perygl” yw oedolyn sydd:
- yn dioddef neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso,
- unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn bodloni unrhyw rhai o'r anghenion hynny ai peidio), ac
- o ganlyniad i'r anghenion hynny, ni all amddiffyn ei hun yn erbyn y cam-drin neu'r esgeuluso neu'r perygl ohono.
Gall y diffiniad hwn gynnwys unigolyn:
- sydd ag anableddau dysgu;
- problemau iechyd meddwl, yn cynnwys dementia;
- sydd yn berson hŷn ag anghenion cymorth/gofal;
- sy’n fregus neu sydd â salwch cronig;
- sydd ag anabledd corfforol neu synhwyraidd;
- sy’n cam-ddefnyddio cyffuriau neu alcohol;
- sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig.
Bydd bregusrwydd unigolyn yn dibynnu ar ei amgylchiadau. Mae llawer o ffactorau rhagdueddol a allai gynyddu'r tebygolrwydd o gam-drin.
Gall rhai ffactorau gynyddu eu bregusrwydd i gael eu cam-drin:
- Unigedd cymdeithasol - fel arfer mae gan y rhai sy'n cael eu cam-drin lai o gysylltiadau cymdeithasol na'r rhai nad ydynt yn cael eu cam-drin.
- Mae gan yr unigolyn salwch fel dementia a allai effeithio ar ei ddeallusrwydd, ei gof neu ei swyddogaethau corfforol ac achosi ymddygiad seicolegol neu gorfforol anrhagweladwy.
- Mae'r unigolyn yn cydymffurfio ac efallai nad yw'n gwybod ei fod yn cael ei gam-drin neu ei ecsbloetio, ee, rhai pobl ag anableddau dysgu.
- Mae gan yr unigolyn anawsterau cyfathrebu o ganlyniad i anawsterau clywed, gweld neu leferydd. Ni allant ddatgelu ar lafar.
- Ni chredir y person os byddant yn datgelu.
- Mae gan yr unigolyn broblemau ymddygiad neu newidiadau mawr mewn personoliaeth sy'n arwain at ymddygiad ailadroddus, crwydro neu ymddygiad ymosodol.
- Mae'r person yn gofyn am neu angen lefel o ofal y tu hwnt i allu'r gofalwr.
Os oes gennych bryderon am oedolyn a allai fod mewn perygl, fe allwch roi gwybod am oedolyn mewn perygl yma.