Iechyd Meddwl a Lles
Melo Cymru
Ni fu hi erioed yn fwy pwysig i ofalu am eich lles meddyliol eich hun, a lles meddyliol eich anwyliaid. Rydym wedi casglu ynghyd yr adnoddau hunangymorth am ddim gorau sydd ar gael a’u rhoi mewn un man.
Mae'r wefan Melo yn cynnwys manylion am hyfforddiant sy'n cael ei argymell, sydd wedi'i gomisiynu'n rhanbarthol, sydd ar gael mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niwed. Gan gynnwys Connect 5 Gwent a Suicide First Aid, ac amrywiaeth o adnoddau digidol ac ar bapur.
Ewch i melo.cymru i ddod o hyd i gymorth, cyfleoedd lleol, adnoddau a chyrsiau er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch fyw bywyd i’r eithaf.