Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod
Ar 11 Tachwedd 2019, cafodd Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu lansio gan Fwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cafodd y gweithdrefnau eu datblygu gan Fwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro mewn partneriaeth â phum Bwrdd Diogelu Rhanbarthol. Cafodd y gweithdrefnau newydd eu mabwysiadu gan Fyrddau Diogelu Gwent ar 4 Rhagfyr 2019.
Maen nhw'n cymryd lle Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Pholisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio rhag cael eu Cam-drin.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ganllaw i arferion diogelu i bawb sy'n cael eu cyflogi yn y sector statudol, y trydydd sector a'r sector preifat ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, yr heddlu, cyfiawnder a gwasanaethau eraill.
Maen nhw'n berthnasol i'r holl ymarferwyr, rheolwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru, p'un a ydyn nhw'n cael eu cyflogi gan asiantaeth wedi'i datganoli neu beidio, a ph'un a ydyn nhw mewn gwaith am dâl neu waith di-dâl.
Nid yw'r gweithdrefnau wedi'u cynllunio i'w hargraffu ac maen nhw ar gael yn ddigidol yn unig. Mae pob ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion yn cael ei annog i lawrlwytho'r ap, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes.
Mae ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru bellach ar gael i'w lawrlwytho ar Apple App Store a Google Play Store. Maen nhw hefyd ar gael yn Gymraeg yn www.diogelu.cymru ac yn Saesneg yn www.safeguarding.wales.
Mae fersiwn bwrdd gwaith bellach ar gael yn: www.myguideapps.com
Fideos am Weithdrefnau Diogelu Cymru
Mae'r fideos canlynol, sydd wedi'u comisiynu gan Diogelu Gwent (wedi'u cynhyrchu gan New Pathways), yn darparu trosolwg o'r newidiadau allweddol o ran gweithdrefnau plant ac oedolion. NID yw'r fideos hyn yn esgus dros beidio â chael hyfforddiant diogelu ac nid ydyn nhw wedi'u cynllunio ar gyfer pobl sy'n newydd i faes diogelu.
Mae'r fideos hyn ar gyfer ymarferwyr sydd â gwybodaeth flaenorol am faes diogelu.
I'r rhai sy'n newydd i faes diogelu, gweler ein tudalennau hyfforddiant i gael manylion am ein cwrs ‘Cyflwyniad i Ddiogelu’.
Beth sy'n wahanol? - Yr Hanfodion - Gweithdrefnau Diogelu Cymru - Gwasanaethau i Oedolion
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
- Beth sy'n wahanol? - Yr Hanfodion - Gweithdrefnau Diogelu Cymru - Gwasanaethau i Oedolion
- Beth sy'n wahanol? - Diogelu Oedolion - Canllaw cyflym i'r newidiadau allweddol
Beth sy'n wahanol? - Yr Hanfodion - Gweithdrefnau Diogelu Cymru - Gwasanaethau i Blant
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
- Beth sy'n wahanol? - Yr Hanfodion - Gweithdrefnau Diogelu Cymru - Gwasanaethau i Blant
- Beth sy'n wahanol? - Diogelu Plant - Canllaw cyflym i'r newidiadau allweddol
Byddwch cystal â rhoi eich adborth am y fideo. Llenwch ein ffurflen adborth. Dylai gymryd dim ond 5 munud i lenwi'r ffurflen.
Mae rhagor o adnoddau hyfforddi ynglŷn â'r gweithdrefnau ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru