Pryderon Cynyddol

Mae pryderon cynyddol yn codi lle mae materion cronnol yn ymwneud â gweithredu, neu ansawdd y gofal a ddarperir mewn cartref gofal cofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i oedolion. Efallai y canfuwyd y pryderon hyn drwy nifer o lwybrau gan gynnwys:

  • Asiantaethau statudol sy'n ymwneud â rheoleiddio neu brynu gwasanaethau;
  • Gweithwyr proffesiynol sy'n cynnal ymweliadau, fel rheolwyr gofal ac aseswyr nyrsio;
  • Cwynion neu ddatgeliadau yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, ffrindiau, eiriolwyr, neu gan gyflogeion presennol neu gyn-gyflogeion cartrefi gofal; a
  • O ganlyniad i ddifrifoldeb atgyfeiriad amddiffyn oedolion unigol neu'r pryderon sy'n codi o gyfres o atgyfeiriadau amddiffyn oedolion mewn cartref penodol, neu mewn grŵp o gartrefi a reolir gan ddarparwr penodol.

Mewn achosion lle mae materion sy'n cronni yn cael eu nodi, dylai fod rhyngweithio eisoes rhwng asiantaethau allweddol gan gynnwys, fel y bo'n briodol, comisiynwyr, yr heddlu, y darparwr gwasanaeth, defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd. Bydd cyfranogiad rheoleiddiol yn cynnwys AGC ynghyd â rheoleiddwyr eraill lle nodir hynny, fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Bydd hyn wedi arwain at ganfod materion ac, o ystyried methiant cartref i fynd i'r afael â hwy a'u datrys, rhoddir 'statws pryder cynyddol' i'r mater.

Mae diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau yn hollbwysig. Mewn amgylchiadau lle nodir bod y ddarpariaeth gofal sy'n achosi dioddefaint wedi methu, ystyrir hyn yn gam-drin oedolion sy'n mynd yn groes i'r ddyletswydd gofal a gallai fod yn gyfystyr â'r cartref yn cyflawni trosedd.

Bydd pryderon cynyddol yn cyfiawnhau ymyrraeth ragweithiol neu adweithiol gan y rheini sy'n comisiynu gwasanaethau, o bosibl gan un neu fwy o asiantaethau comisiynu, a gynlluniwyd i wella ansawdd gwasanaethau a, lle bo hynny'n bosibl, atal yr hyn a allai fel arall arwain at gau cartrefi.

Os amheuir cam-drin, rhaid i'r polisi a'r gweithdrefnau i amddiffyn oedolion agored i niwed gael blaenoriaeth. Yr amcan pennaf dylai fod i sicrhau diogelwch defnyddwyr gwasanaeth sy'n agored i niwed. Mewn llawer o sefyllfaoedd bydd er pennaf les y defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio'r weithdrefn pryderon cynyddol ochr yn ochr â'r gweithdrefnau amddiffyn oedolion mewn ymdrech i gadw'r cartref ar agor. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, mae cyfathrebu clir rhwng staff ac asiantaethau sy'n ymwneud â'r ddwy broses yn hanfodol. Fodd bynnag, yn y sefyllfaoedd mwyaf difrifol efallai na fydd yn bosibl nac er pennaf les y defnyddiwr gwasanaethau i roi cynnig ar hyn a gallai cau fod yn gam anochel.

Mae cau cartrefi gofal yn syrthio i ddau brif gategori o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000; ‘Gwirfoddol’ (lle mae'r cartref yn dewis cau) neu gael ei orfodi ’(lle gorfodir y cartref i gau). Pa bynnag yw'r categori, mae'r Ddeddf yn nodi'r sail gyfreithiol sy'n rheoli'r broses.

Mae mwy o wybodaeth i’w chael ar: www.gov.wales