Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA)

Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) yw’r broses y mae’r Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Carchardai yn ei defnyddio i gydweithio ag asiantaethau eraill i reoli’r risgiau sy’n bodoli pan fydd troseddwyr treisgar a throseddwyr rhyw yn byw yn y gymuned.

Sut mae MAPPA yn gweithio?

Caiff troseddwyr sy'n gymwys ar gyfer MAPPA eu canfod a chaiff gwybodaeth ei chasglu a'i rhannu amdanynt ar draws asiantaethau perthnasol. Caiff natur a lefel y niwed y maent yn ei achosi ei asesu a chaiff cynllun rheoli risg ei roi ar waith i ddiogelu'r cyhoedd.

Mae cynllun rheoli risg yn nodi'r camau y mae angen eu cymryd i leihau'r risg. Rhai mesurau y gellir eu hystyried yw:

  • Sicrhau bod gan droseddwyr lety addas, a all gynnwys mynnu bod y troseddwr yn byw mewn hostel sy'n cael ei redeg gan y gwasanaeth prawf;
  • Rhoi rheolaethau ar ymddygiad y troseddwyr trwy amodau trwydded rhyddhau llym a all gynnwys peidio â chysylltu ag unigolyn a enwir a pheidio â mynd i mewn i barth gwaharddedig a ddiffinnir;
  • Goruchwyliaeth ddwys gan swyddog prawf, rheolwr trosedd a/neu heddlu diogelu'r cyhoedd yn y gymuned:
  • Cyfyngiadau cyrffyw a / neu dagio electronig;
  • Sicrhau, os yw'n briodol, bod y troseddwr yn derbyn gofal iechyd priodol; a
  • Sicrhau bod y troseddwr yn mynychu rhaglenni achrededig dynodedig ac ymyriadau eraill (fel rhaglenni cyffuriau ac alcohol) gyda'r nod o leihau troseddu pellach.

Nid yw pob troseddwr MAPPA yn peri risg uniongyrchol o niwed i eraill ac yn y rhan fwyaf o achosion; bydd y troseddwr yn cael ei reoli o dan y trefniadau cyffredin a ddefnyddir gan yr asiantaeth neu'r asiantaethau sydd â chyfrifoldebau goruchwylio.