Pŵer Atwrnai Arhosol, Llys Gwarchod a Phenodi Dirprwy
Pwerau Atwrnai
Mae pŵer atwrnai yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i berson roi awdurdod i berson arall wneud penderfyniadau ar ei ran. O dan bŵer atwrnai gall yr unigolyn a ddewiswyd, wneud penderfyniadau sydd mor ddilys ag un a wneir gan yr unigolyn. Nid oes gan atwrneiod unrhyw awdurdod i gymryd camau sy'n golygu bydd yr unigolyn yn cael ei amddifadu o'i ryddid.
Ar hyn o bryd mae dau fath o Bŵer Atwrnai; Pŵer Atwrnai Parhaol a Phŵer Atwrnai Arhosol:
Mae Pŵer Atwrnai Parhaus (PAP) yn caniatáu atwrnai i wneud penderfyniadau am eiddo a materion ariannol hyd yn oed os nad oes gan yr unigolyn y gallu i reoli ei faterion ei hun. Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) (DGM) yn cymryd lle’r PAP o ran pŵer atwrnai arhosol (PAA).
Mae PAP a wnaed cyn i'r DGM ddod i rym, boed yn gofrestredig neu beidio, yn parhau i fod yn ddilys. Rhaid cofrestru PAP gyda'r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (SGC) pan fydd yr atwrnai yn credu nad oes gan yr unigolyn allu i reoli ei faterion ei hun neu efallai'n dechrau dangos diffyg gallu i reoli ei faterion ei hun. Nid yw bellach yn bosibl pennu PAP newydd.
Oedolyn 18 oed neu hŷn yn unig gall wneud Pŵer Atwrnai Arhosol (PAA) os oes ganddynt y gallu i wneud hynny. Dylai unigolyn feddwl yn ofalus cyn dewis rhywun i fod yn atwrnai iddo. Dylai atwrnai fod yn rhywun dibynadwy, cymwys y gellir ymddiried ynddo.
Cyn gweithredu o dan y PAA, rhaid i atwrneiod sicrhau bod y PAA wedi'i gofrestru gyda SGC a chymryd pob cam ymarferol a phriodol i helpu'r unigolyn i wneud penderfyniadau penodol drosto'i hun. Rhaid i atwrneiod ddilyn egwyddorion DGM bob amser a gwneud penderfyniadau er budd pennaf yr unigolyn.
Mae yna ddau fath o PAA:
- PAA Lles Personol lle gall wneud penderfyniadau am unrhyw beth sy’n ymwneud â lles personol yr unigolyn a all gynnwys penderfyniadau am ofal iechyd a thriniaeth feddygol. Dim ond ar adeg pan nad oes gan yr unigolyn y gallu i wneud penderfyniad penodol ynglŷn â lles y gellir defnyddio PAA lles personol. Gallai penderfyniadau gynnwys pethau fel lle mae’r unigolyn yn byw, gofal o ddydd i ddydd, caniatáu i driniaeth neu ei wrthod, asesiadau ar gyfer darparu gofal cymunedol a phwy y mae'r unigolyn yn cysylltu â nhw.
Gall yr unigolyn ychwanegu cyfyngiadau neu amodau at feysydd lle na fyddent yn dymuno i'r atwrnai gael grym i weithredu; er enghraifft, caniatáu penderfyniadau am ofal cymdeithasol yn unig ac nid gofal iechyd. Pan fydd staff iechyd neu ofal cymdeithasol yn ymwneud â chynllunio gofal ar gyfer rhywun sydd wedi penodi atwrnai lles personol, mae'n rhaid iddynt yn gyntaf asesu a oes gan yr unigolyn y gallu i gytuno i'r gofal cyfan neu ran ohono. Os nad oes gan yr unigolyn allu, rhaid i weithwyr proffesiynol ymgynghori â'r atwrnai ac i'r atwrnai hwnnw gytuno.
Os yw PAA yn cynnwys y gallu i wneud penderfyniadau ynghylch gofal iechyd, NID OES gan atwrneiod yr hawl i ganiatáu i driniaeth na'i gwrthod mewn sefyllfaoedd:
- Lle nad oes gan yr unigolyn y gallu i wneud y penderfyniad penodol ynghylch gofal iechyd penodol
- Os yw’r unigolyn wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod y driniaeth arfaethedig
- Os yw penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth i gynnal bywyd
- Os yw’r unigolyn yn cael ei gadw dan y ddeddf iechyd meddwl
Os yw staff gofal iechyd yn anghytuno ag asesiad yr atwrnai o ran buddiannau pennaf, dylent geisio ail farn a thrafod ymhellach gyda'r atwrnai. Os na ellir dod i gytundeb, gellir gwneud cais i'r llys gwarchod. Tra bod y llys yn dod i benderfyniad, gall staff gofal iechyd roi triniaeth cynnal bywyd i ymestyn bywyd neu atal cyflwr yr unigolyn rhag gwaethygu.
- PAA Eiddo a Materion sy’n gallu gwneud penderfyniadau am eiddo a materion gan gynnwys materion ariannol. Oni bai bod yr unigolyn yn nodi fel arall, ar ôl cofrestru'r PAA; caniateir i'r atwrnai wneud yr holl benderfyniadau am eiddo a materion yr unigolyn hyd yn oed os oes gan yr unigolyn y gallu i wneud y penderfyniadau. Gall yr unigolyn ddatgan y bydd y PAA yn gymwys pan na fydd ganddynt y gallu mwyach, a hynny'n unig, i ddelio â'u materion. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw penderfynu sut y dylid asesu eu gallu, e.e. gan eu meddyg teulu. Efallai y bydd sefydliadau ariannol am weld y cadarnhad ysgrifenedig, cyn cydnabod awdurdod yr atwrnai i weithredu o dan y PAA.
Nid yw'r ffaith bod rhywun wedi gwneud PAA Eiddo a Materion yn golygu na allant barhau i gynnal trafodion ariannol drostynt eu hunain os oes ganddynt y gallu i wneud hynny. Os bydd yr unigolyn yn dewis peidio â chyfyngu penderfyniadau y gall yr atwrnai eu gwneud, bydd yr atwrnai yn gallu gwneud penderfyniadau a allai gynnwys prynu neu werthu eiddo, agor a chau cyfrifon banc, derbyn incwm neu etifeddiaeth, gwneud rhoddion ar ran yr unigolyn. Ar ran yr unigolyn, a hynny'n unig y gall atwrnai roi rhoddion i bobl y mae'r unigolyn yn perthyn iddynt neu â chyswllt â hwy, ar achlysuron penodol fel penblwyddi, priodasau ac ati. Rhaid i werth y rhodd fod yn rhesymol i ystyried maint ystâd yr unigolyn.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am PAA ewch i www.gov.uk/power-of-attorney
Beth ddylai rhywun ei wneud os ydynt yn credu bod atwrnai yn cam-fanteisio ar eu sefyllfa?
Mae atwrneiod mewn sefyllfa o ymddiriedaeth a gall yr unigolyn atal cam-drin trwy ddewis atwrnai dibynadwy yn ofalus. Mae arwyddion bod atwrnai yn manteisio ar yr unigolyn yn cynnwys, atal perthnasau neu ffrindiau rhag cysylltu â'r unigolyn, newidiadau sydyn mewn trefniadau byw heb esboniad, peidio â chaniatáu i staff gofal iechyd neu ofal cymdeithasol weld yr unigolyn, biliau heb eu talu, agor cerdyn credyd i'r unigolyn, trosglwyddo asedau i wlad arall neu wario arian mewn ffordd anarferol o wastraffus. Dylai rhywun sy'n amau cam-fanteisio gysylltu â SGC ar unwaith. Mewn achosion o amheuaeth o gam-drin corfforol neu rywiol, lladrad neu dwyll, dylech gysylltu â'r heddlu a thîm diogelu'r awdurdod lleol.
Y Llys Gwarchod
Mae'r Llys Gwarchod yn llys arbenigol sy'n delio â gwneud penderfyniadau ar gyfer oedolion a allai fod heb allu i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain a gall:
- Benderfynu a oes gan berson y gallu i wneud penderfyniad penodol
- Gwneud datganiadau, penderfyniadau a gorchmynion ar faterion ariannol a lles sy'n effeithio ar bobl sydd â diffyg gallu, neu yr honnir bod ganddynt ddiffyg gallu.
- Penodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran pobl sydd heb allu i wneud y penderfyniadau hynny
- Cael gwared ar ddirprwyon neu atwrneiod sy'n gweithredu'n amhriodol
- Penderfynu a yw PAA yn ddilys
Yn yr achosion anoddaf a hynny'n unig y bydd angen dirprwyon ar gyfer penderfyniadau lles personol, lle na ellir gweithredu camau pwysig ac angenrheidiol heb awdurdod y llysoedd neu pan nad oes ffordd arall o ddatrys y mater er budd pennaf yr unigolyn sydd heb y gallu i wneud penderfyniadau lles penodol, mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Anghydfodau teuluol difrifol a allai gael effaith niweidiol ar ofal yr unigolyn yn y dyfodol
- Teimlir bod perygl difrifol o niwed i'r unigolyn sydd heb allu, os caiff ei adael yng ngofal y teulu
- Mae angen i rywun wneud cyfres o benderfyniadau lles cysylltiedig dros amser ac ni fyddai'n fuddiol nac yn briodol i ofyn i'r llys wneud yr holl benderfyniadau hynny
- Y ffordd fwyaf priodol o weithredu er budd pennaf yr unigolyn yw penodi dirprwy
Os yw unigolyn heb allu i wneud penderfyniadau mewn perthynas ag eiddo a materion ac nad oes ganddo PAP neu PAA, mae angen cais i'r llys er mwyn delio â:
- Asedau arian parod dros swm penodedig
- Gwerthu eiddo unigolyn
- Os oes gan yr unigolyn lefel o incwm y mae'r llys yn credu bod angen i ddirprwy ei rheoli
Bydd angen i unrhyw un sy'n cael ei ystyried am benodiad fel dirprwy eiddo a materion busnes, lofnodi datganiad yn nodi ei amgylchiadau a'i allu i reoli materion ariannol. Bydd y datganiad hefyd yn cynnwys y tasgau a'r dyletswyddau y mae'n rhaid i'r dirprwy eu cyflawni.
I gael mwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk/courts-tribunals/court-of-protection
Penodi dirprwy i unigolyn sy’n hawlio budd-daliadau
Os mai unig incwm unigolyn sydd heb allu yw budd-daliadau nawdd cymdeithasol ac nad oes ganddo eiddo neu gynilion, fel arfer ni fydd angen penodi dirprwy drwy'r Llys Gwarchod.
Os oes angen cymorth ar unigolyn sy'n hawlio budd-daliadau i reoli eu cyllid oherwydd nad oes ganddynt allu neu am fod ganddynt anabledd difrifol, gellir penodi rhywun o'r Adran Gwaith a Phensiynau. Gall y sawl a benodir fod yn unigolyn fel ffrind, perthynas neu sefydliad fel yr awdurdod lleol.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais i fod yn ddirprwy a benodir ewch i www.gov.uk/become-appointee-for-someone-claiming-benefits
Cafwyd yr wybodaeth o God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol