Cwympiadau

Mae cwympo wedi ymddangos yn sawl un o Adolygiadau Ymarfer Oedolion Bwrdd Diogelu Gwent yn y blynyddoedd diwethaf. Yn aml, mae modd atal cwympo ac NID ydyn nhw’n rhan anochel o heneiddio. Yn ystod mis Hydref 2022, arweiniodd Age Cymru ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am gwympo mewn partneriaeth ag Age Connects Cymru a Gofal a Thrwsio Cymru. 

Mae gwybodaeth am y ffyrdd y gall pobl leihau eu risg nhw o gwympo ar gael ar Age Cymru. Gallai siarad â phobl am hyd yn oed y codymau ‘bach’ – yr achosion o faglu a oedd heb achosi llawer iawn o boen, ond yn hytrach embaras – fod yn bwysig.

Mae'r fideo hwn yn dangos awgrymiadau Age Cymru ar gyfer atal cwympo ymhlith pobl hŷn