Effeithiau Cam-drin Domestig ar Blant a Phobl Ifanc
Mae llawer o blant yn ymdopi â cham-drin ac yn dod trwyddi, gan ddangos gwytnwch rhyfeddol. Fodd bynnag, gall effeithiau corfforol, seicolegol ac emosiynol cam-drin domestig ar blant hefyd fod yn ddifrifol ac yn barhaol.
Efallai y bydd rhai plant yn encilgar ac yn ei chael yn anodd cyfathrebu. Gall eraill feio'u hunain am y cam-drin. Mae pob plentyn sy'n wynebu camdriniaeth dan straen. Heb unrhyw fai arnyn nhw, gall y straen hwnnw arwain at blant sy'n dangos yr ymddygiadau canlynol:
Encilgar, ymddygiad ymosodol neu fwlio, stranciau, fandaliaeth, problemau yn yr ysgol, triwantiaeth, problemau lleferydd, anawsterau gyda dysgu, mynnu sylw, hunllefau neu fethu cysgu, gwlychu gwely, pryder, iselder, ofn cael eu gadael, teimladau o israddoldeb, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol , anhwylderau bwyta, annwyd cyson, cur pen, briwiau yn y geg, asthma, ecsema.
Young Minds - Darparu gwybodaeth a chyngor i rieni y mae eu plant wedi gweld neu ddioddef cam-drin domestig
Child Line - darparu gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc ar ddelio â cham-drin domestig. Gallai hyn fod yn rhywbeth y gallech chi ei ddangos i'ch plentyn os ydynt wedi dod i gyswllt á cham-drin domestig
Live Fear Free - Mae Byw Heb Ofn yn wefan gan Lywodraeth Cymru, sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i'r rhai sy'n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Os hoffech wybod mwy am gam-drin domestig a materion cysylltiedig cliciwch yma.