Camddefnyddio sylweddau ac alcohol

Camddefnyddio sylweddau yw un o'r risgiau mwyaf cyffredin i iechyd a datblygiad person ifanc, eto i gyd mae modd ei atal. Mae gan bob cyffur y potensial i achosi niwed. Gallwch ddod yn gaeth i rai a gall defnyddio cyfuniad o gyffuriau gynyddu risg.

Mae llawer o rieni'n pryderu am yfed dan oed, cymryd cyffuriau ac ymddygiad heriol. Dysgwch sut y gallwch chi gadw'ch plentyn yn ddiogel ac yn ymwybodol o'r risgiau, drwy ddefnyddio'r dolenni isod

Ask Frank - Cyngor ymarferol i rieni a gofalwyr ar sut i siarad â'ch plentyn am gyffuriau. Cewch ddod i wybod y ffeithiau, deall y materion a dechrau siarad. Adnodd A-Z cynhwysfawr am gyffuriau

NSPCC - Cyngor ar sut i siarad â’ch plentyn am yfed a pheryglon cyffuriau

Family Lives - gwybodaeth i rieni / gofalwyr ar adnabod arwyddion camddefnyddio sylweddau, A-Z am gyffuriau

Young minds - Darparu gwybodaeth a chyngor a ble y gallwch gael help fel rhiant / gofalwr i gefnogi'ch plentyn