Hunanladdiad a hunan-niwed

Gall hunan-niwed gynnwys amrywiaeth o bethau y mae pobl yn eu gwneud iddynt eu hunain mewn ffordd fwriadol a niweidiol. Er mai torri yw'r math mwyaf cyffredin o hunan-niwed, mae dulliau eraill yn cynnwys curo pen, tynnu gwallt, llosgi a sgaldio, brathu, crafu, trywanu, torri esgyrn, llyncu gwrthrychau, hunan-wenwyno a gor-ddosio.

Trwy anafu eu hunain, mae plant a phobl ifanc yn cyflawni ffurf o hunanreolaeth ar eu bywyd y maent yn teimlo sydd fel arall yn anhrefnus ac yn ddiystyr. Mae hunan-niwed yn ffordd o ymdopi a sianelu rhwystredigaeth ac emosiynau cryf eraill. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, nid yw'n ymgais i gyflawni hunanladdiad, ond yn hytrach mae’n ffordd o ollwng stêm.

Gall salwch meddwl a meddyliau hunanladdol effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran, o unrhyw gefndir, ar unrhyw adeg. Yn yr un modd a salwch corfforol, nid yw pobl yn dewis cael problem iechyd meddwl. Ac mae angen y gofal priodol arnynt i wella. Mae salwch meddwl a meddyliau hunanladdol yn faterion cyffredin i bobl ifanc.

Gall fod yn anodd gwybod a yw plentyn yn dioddef gan ei fod yn aml yn cadw pethau iddo'i hun. Ond mae yna lawer o sefydliadau yno i'ch helpu i adnabod yr arwyddion a gwybod sut i'w cefnogi.

Y Samariaid - maent yn cynnig gwybodaeth i rieni ar hunanladdiad a hunan-niweidio

NSPCC (Iechyd Meddwl) - cyngor ar helpu plant os ydynt yn brwydo a’u hiechyd meddwl a meddyliau hunanladdol

NSPCC (Hunan Niweidio) - Dysgwch sut i adnabod arwyddion hunan-niweidio a’r hyn gallwch ei wneud i helpu

Family Lives - gwybodaeth ar ddeall hunan-niweidio i rieni ac aelodau’r teulu

Ymdopi a Hunan-Niweidio: Canllaw i Rieni a Gofalwyr - Nod y canllaw hwn yw helpu rhieni, gofalwyr, aelodau eraill o'r teulu a ffrindiau i ymdopi pan fydd person ifanc yn hunan-niweidio. Mae'n cynnwys gwybodaeth am natur ac achosion hunan-niwed, sut i gefnogi person ifanc pan fydd yn wynebu'r broblem hon a pha gymorth sydd ar gael.