Diogelu Plant a Phobl Ifanc rhag Camdriniaeth

I ddarganfod mwy am yr hyn y mae cam-drin plant yn ei olygu a sut i adnabod yr arwyddion, isod, gallwch ddilyn y cysylltiadau i'r gwahanol fathau o gam-drin.

Am fwy o wybodaeth ynghylch pwy y mae cam-drin yn effeithio arnynt, a materion eraill y mae plant yn eu hwynebu gallwch ymweld â gwefan NSPCC.

Os ydych chi'n poeni am blentyn neu os ydych chi'n poeni ei fod yn cael ei gam-drin mewn unrhyw ffordd, mae'n rhaid i chi roi gwybod amdano er mwyn atal unrhyw niwed neu ddioddefaint pellach. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r wybodaeth ar y ddolen gyswllt Rhoi gwybod am blentyn mewn perygl.

Os ydych chi'n credu bod plentyn mewn perygl yr eiliad hon, rhaid i chi ddefnyddio unrhyw ffon i ffonio 999.

Cofiwch, nid yw plentyn bob amser yn gwybod ei fod yn cael ei gam-drin oherwydd gall fod yn rhywbeth sydd bob amser wedi digwydd iddynt. Ein cyfrifoldeb ni yw rhoi gwybod am gam-drin a'i atal.

Break the Suffering; Break the Silence

Mae Break the Suffering; Break the Silence yn glip digidol, byr sy'n rhoi gwybodaeth am gam-drin ac esgeuluso. Cymerwch amser i'w wylio a rhannu'r negeseuon gyda'ch cydweithwyr a'ch ffrindiau.

Mae hefyd gennym daflen Beth yw Cam-drin Plant?, sy'n ganllaw ar sut y gallwch chi helpu i ganfod a rhoi gwybod am gam-drin plant.