Rwy'n rhiant neu'n ofalwr

Fel rhiant neu ofalwr efallai eich bod yn gofalu am blentyn neu berson ifanc ac angen darganfod sut i'w cadw'n ddiogel. Efallai eich bod yn pryderu am y peryglon y maent yn eu hwynebu neu rai o'r anawsterau y byddant yn dod ar eu traws. Bydd y dolenni isod yn edrych ar rai themâu a allai roi gwybodaeth i chi am nifer o bynciau gwahanol i'ch helpu i gefnogi ac amddiffyn y plentyn neu'r person ifanc hwnnw.