Bwlio

Gall yr effaith y mae bwlio yn ei gael ar blant a phobl ifanc fod yn ddifrifol, ond mae camau y gallwch eu cymryd i gefnogi'ch plentyn a'i ddiogelu rhag niwed.

Cam-drin yw bwlio. Gall effeithio ar bresenoldeb, ymddygiad a pherfformiad plant yn yr ysgol. Gall bwlio niweidio hunan-barch plant a gall fod yn niweidiol i iechyd meddwl y plentyn. Gall profiadau bwlio ymysg plant hefyd effeithio arnynt yn negyddol hyd yn oed pan fyddant yn oedolion.

Bydd bwlio yn effeithio ar dros 50% o blant ar ryw adeg yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Felly fel rhiant, mae'n rhywbeth efallai y bydd yn rhaid i chi ddelio ag ef yn y dyfodol.

Isod ceir rhai dolenni ac adnoddau a fydd yn eich helpu i adnabod arwyddion bwlio ac maent yn rhoi cyngor ar gefnogi'ch plentyn os yw'n cael ei fwlio neu'n ymwneud â bwlio.

Cynghrair Gwrth-fwlio - Offeryn gwybodaeth ryngweithiol i rieni, yn cwmpasu pob agwedd ar fwlio

Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel - Cyngor i rieni a gofalwyr, yn ymwneud â bwlio ar lein

Bulllying.co,uk - Gwybodaeth am sut i gefnogi eich plentyn os yw'n dioddef effeithiau bwlio

Parent Zone - Awgrymiadau da i'w dilyn os yw eich plentyn yn cael ei fwlio

Kidscape - Bydd y ddolen hon yn rhoi awgrymiadau ymarferol i chi i'ch helpu i ddelio â bwlio a'i faterion cysylltiedig fel diogelwch ar-lein, addysg, codi hunan-barch ac annog ymddygiad cadarnhaol