Rhyw a Pherthnasoedd

Nid yw siarad â'ch plant am dyfu i fyny, perthnasoedd, rhyw (a phopeth arall sy'n mynd gydag ef) yn rhywbeth sy'n gorfod bod yn anodd. Mae'r dolenni isod i'ch helpu i gael gwybodaeth, awgrymiadau a chyngor ar sut ydych chi'n dechrau cynnal sgwrs am berthnasoedd iach gyda'ch plentyn.

Y Gymdeithas Cynllunio Teulu - Mae gan y Gymdeithas Cynllunio Teulu awgrymiadau a chyngor i roi i chi’r hyder a’r wybodaeth i siarad â’ch plant, beth bynnag yw eu hoedran.

NSPCC - Camau o ymddygiad rhywiol arferol - Wrth i blant fynd yn hŷn, mae'r ffordd y maent yn mynegi eu teimladau rhywiol yn newid. Bydd y ddolen hon yn rhoi syniad da i chi o beth yw ymddygiad rhywiol arferol a gall hefyd eich helpu i weld yr arwyddion rhybuddiol os na fydd rhywbeth yn iawn.

Herio agweddau rhywiol niweidiol a'u heffaith - Thinkuknow - mae'r dudalen we hon yn edrych ar sut y gall agweddau a syniadau niweidiol am ryw a chenedl gefnogi ymddygiad rhywiol difrïol.