Diogelu plant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol

Gall cefnogi'ch plentyn i gymryd rhan mewn clybiau a chwaraeon eu helpu i ddatblygu sgiliau, gwneud ffrindiau newydd ac adeiladu hunanhyder. Ond mae'n bwysig gwybod bod y bobl sy'n cynnal y gweithgaredd yn mynd i gymryd diogelwch eich plentyn o ddifri, yn yr un modd ag yr ydych chi.

Felly, cyn i'ch plentyn ymuno, dyma rai pethau i'w canfod.

A oes polisi amddiffyn/ diogelu plant?

Dylai pob sefydliad wybod sut y caiff plant eu cadw'n ddiogel. Os nad oes polisi ysgrifenedig yna efallai y byddwch am ystyried a ydych am i'ch plentyn ymuno.

Gyda phwy ydych chi'n siarad os ydych chi'n gofidio am unrhyw beth?

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod â phwy y gallwch siarad os oes unrhyw beth yn eich poeni. Dylai fod gan bob clwb a gweithgaredd arweinydd amddiffyn/diogelu plant neu swyddog lles.

A oes cod ymddygiad ysgrifenedig ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr?

Rydych chi eisiau gwybod bod gan y bobl fydd yn gyfrifol am eich plentyn set o reolau a gofynion y mae'n rhaid iddynt eu dilyn.

Beth sy'n digwydd pan fydd yn rhaid i'ch plentyn deithio i ddigwyddiadau sydd ‘i ffwrdd’?

Weithiau bydd yn rhaid i'ch plentyn fynd ar deithiau gyda'r clwb. Dylent gael polisi sy'n ymdrin â phethau fel y gymhareb o oedolion i blant a argymhellir a sut y caiff y teithio ei drefnu rhwng lleoliadau.

A yw'r holl staff wedi'u hyfforddi, yn gymwysedig ac wedi derbyn gwiriad gan yr heddlu i weithio gyda phobl ifanc?

Dylai'r clwb allu cadarnhau bod yr holl wiriadau angenrheidiol wedi'u cwblhau.

Sut eir i'r afael â materion iechyd a diogelwch?

Er enghraifft, a oes swyddog cymorth cyntaf hyfforddedig wrth law bob amser ac a yw'r holl allanfeydd tân wedi'u marcio ac yn hawdd eu hagor?

Beth yw'r polisi os oes angen gofal personol ar blentyn?

Os oes rhaid i unrhyw un o'r clwb wneud unrhyw beth y byddai rhiant yn ei wneud fel arfer, fel mynd â phlentyn ifanc i'r toiled neu weinyddu meddyginiaeth, mae'n bwysig bod ganddo ganllawiau y mae'n rhaid eu dilyn.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol bellach am arfer da o Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC.

Bydd gan y rhan fwyaf o glybiau a chanolfannau gweithgaredd yr holl fesurau diogelu hyn ar waith. Os nad ydych yn siŵr a ydynt ar waith, gofynnwch am gael gweld y polisïau drosoch eich hun. Wedi'r cyfan, nid oes dim yn bwysicach na chael y tawelwch meddwl bod eich plentyn mewn dwylo diogel.

Os ydych chi'n teimlo bod gweithgaredd, digwyddiad, clwb neu sefydliad yn rhoi plant (dan 18 oed) mewn perygl o niwed mewn unrhyw ffordd dylech gysylltu ag adran gwasanaethau plant eich awdurdod lleol a rhoi gwybod iddynt beth rydych chi'n poeni amdano. Peidiwch byth ag amau'ch hun os oes gennych bryderon, mae bob amser yn well siarad â rhywun na difaru’n ddiweddarach nad oeddech chi wedi gwneud hynny yn y lle cyntaf!