Cam-drin Corfforol
Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu unrhyw beth arall sy’n achosi niwed corfforol i blentyn. Gellir hefyd achosi niwed corfforol pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio neu’n achosi salwch i blentyn y mae’n gofalu amdano.
I weld arwyddion a symptomau cam-drin corfforol ewch i wefan y NSPCC.
NSPCC – Gwybodaeth Graidd – Gwefan a Thaflenni
Mae gan y NSPCC adnodd am ddim i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r NSPCC, mewn cydweithrediad â Sefydliad Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd Cochrane (sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd) wedi cynnal cyfres o adolygiadau llenyddol systematig ar bynciau difrifol fel cam-drin corfforol ac esgeuluso. Mae'r adolygiadau hyn yn dwyn ynghyd y dystiolaeth orau sydd ar gael ar bwnc penodol, gan ddarparu sail dystiolaeth i wneud penderfyniadau proffesiynol.
Mae canfyddiadau'r adolygiadau hyn wedi'u crynhoi mewn cyfres o daflenni. Mae'r taflenni hyn yn darparu gwybodaeth allweddol i weithwyr proffesiynol i helpu i lywio eu hasesiadau a'u penderfyniadau. Ar hyn o bryd mae gwybodaeth ar gael ar y pynciau a ganlyn, gweler y dolenni isod:
- Plant a Hollti Esgyrn
- Cleisiau ar blant
- Anafiadau i’r pen a’r asgwrn cefn ymhlith plant
- Anafiadau thermol ar blant
Mae'r taflenni ar gael yn ddwyieithog ac am ddim gan y NPSCC.
‘Ysgwyd Eich Baban’
Lansiodd Gwasanaeth Diogelu Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gefnogir gan Blant yng Nghymru, ymgyrch iechyd cyhoeddus i atal Anafiadau Pen Annamweiniol ymhlith babanod, yn ystod Cynhadledd Cymru gyfan a gynhaliwyd ar 30 Medi 2013. Mae negeseuon allweddol yr ymgyrch yn cael eu lledaenu gan ddefnyddio'r fideo pedwar munud a ganlyn sy'n amlygu'r heriau o ymdopi â baban sy'n crio, ac mae’n datgan yn glir ei fod yn niweidiol i ysgwyd babi.
Mae'r ffilm yn rhoi arweiniad defnyddiol i rieni a gofalwyr i'w cynorthwyo i ddatblygu strategaethau i ddelio a chyfnodau o straen sy'n gyffredin i bob rhiant. Mae'r fideo yn deillio o waith a wnaed dros y deng mlynedd diwethaf gan dîm prosiect amlddisgyblaethol o Awstralia o Ysbyty'r Plant yn Westmead, Sydney, New South Wales.
Gweler y fideo ar ysgwyd babi yma.