Tudalen Cam-drin Ariannol

Ystyr cam-drin ariannol yw unrhyw ddwyn neu gamddefnyddio arian, eiddo neu adnoddau gan berson sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. 

Ar gyfer plant a phobl ifanc, gall hyn fod ar ffurf:

  • Gweithwyr plant heb dâl
  • Taliadau LCA yn cael eu cymryd gan deulu heb ganiatâd y plentyn
  • Eiddo plentyn yn cael eu gwerthu neu ar goll
  • Hawliadau budd-daliadau ar gyfer y plentyn, nad ydyn nhw'n wir a salwch ffug
  • Camddefnyddio lwfansau/grantiau ar gyfer gofal plant
  • Ceir amhriodol sydd wedi'u cynorthwyo gan lwfansau a'r elusen Motability
  • Taliadau Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu gwario, ond nid er budd y plentyn, gan ofalwr maeth neu ofalwr sy'n berthynas

Gallai dangosyddion cam-drin ariannol o ran plant a phobl ifanc gynnwys:

  • Peidio â diwallu eu hanghenion am ofal a chymorth sy'n cael eu darparu drwy daliadau uniongyrchol 
  • Cwynion bod eiddo personol ar goll
  • Diffyg cyfleusterau arferol yn y cartref megis teledu neu ddillad priodol

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: Gofal Cymdeithasol Cymru (Diogeli.cymru)