Cam-drin Emosiynol

Cam-drin emosiynol yw cam-drin plentyn yn emosiynol, a hynny'n barhaus, er mwyn achosi effeithiau niweidiol difrifol a chyson ar ddatblygiad emosiynol y plentyn. Gall olygu cyfleu i blentyn ei fod yn ddi-werth neu nad oes neb yn ei garu, nad yw'n ddigonol nac yn cael ei werthfawrogi dim ond i'r graddau ei fod yn diwallu anghenion person arall. Gall gynnwys cynnwys disgwyliadau amhriodol ar blant a hynny o ran oedran neu ddatblygiad. Gall olygu peri i blant deimlo'n ofnus neu mewn perygl yn aml, er enghraifft trwy weld cam-drin domestig yn y cartref neu gael eu bwlio, neu gall olygu cam-fanteisio ar blant neu lygru plant. Mae rhywfaint o gam-drin emosiynol yn rhan o bob math o gam-drin plentyn, er y gall ddigwydd ar ei ben ei hun.

I weld arwyddion a symptomau cam-drin emosiynol ewch i wefan yr NSPCC.

NSPCC – Gwybodaeth Graidd – Gwefan a Thaflenni

Mae gan yr NSPCC adnodd am ddim i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r NSPCC, mewn cydweithrediad â Sefydliad Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd Cochrane (sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd) wedi cynnal cyfres o adolygiadau llenyddol systematig ar bynciau difrifol fel cam-drin corfforol ac esgeuluso. Mae'r adolygiadau hyn yn dwyn ynghyd y dystiolaeth orau sydd ar gael ar bwnc penodol, gan ddarparu sail dystiolaeth i wneud penderfyniadau proffesiynol.

Mae canfyddiadau'r adolygiadau hyn wedi'u crynhoi mewn cyfres o daflenni. Mae'r taflenni hyn yn darparu gwybodaeth allweddol i weithwyr proffesiynol i helpu i lywio eu hasesiadau a'u penderfyniadau. Gweler y ddolen isod: