Cam-drin rhywiol
Mae cam-drin rhywiol yn golygu gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a yw'r plentyn yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ai peidio. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol. Gallant gynnwys gweithgareddau di-gyswllt, fel gorfodi plant i edrych ar ddeunydd pornograffig, eu cynnwys wrth greu deunydd pornograffig, neu wylio gweithgareddau rhywiol, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n amhriodol yn rhywiol.
Mae Gwasanaethau'r Ganolfan Atgyfeirio Cam-drin Rhywiol (CACRh) yn rhoi cymorth i blant ac oedolion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae gwasanaethau’r Ganolfan Atgyfeirio Cam-drin Rhywiol yn gyfrinachol, ond mae gan staff ddyletswydd gyfreithiol i rannu gwybodaeth gyda'r Heddlu neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol os ystyrir bod plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl o niwed sylweddol.
Gallwch gael gwybodaeth yma am wasanaethau CACRh yng Ngwent a rhannau eraill o Gymru.
I weld arwyddion a symptomau cam-drin rhywiol, ewch i wefan y NSPCC.