Esgeuluso
Esgeuluso yw methiant parhaus i ddiwallu anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o gael effaith ddifrifol ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn. Gall gynnwys rhiant neu ofalwr sy’n methu â darparu bwyd, lloches a dillad digonol, methiant i amddiffyn plentyn rhag niwed neu berygl corfforol, neu fethiant i sicrhau mynediad i ofal neu driniaeth feddygol briodol. Gall hefyd gynnwys esgeuluso anghenion emosiynol sylfaenol plentyn, neu fethu ag ymateb iddynt.
I weld arwyddion a symptomau cam-drin emosiynol ewch i wefan yr NSPCC website.
NSPCC - Gwybodaeth Graidd - Gwefan a Thaflenni
Mae gan yr NSPCC adnodd am ddim i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r NSPCC, mewn cydweithrediad â Sefydliad Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd Cochrane (sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd) wedi cynnal cyfres o adolygiadau llenyddol systematig ar bynciau difrifol fel cam-drin corfforol ac esgeuluso. Mae'r adolygiadau hyn yn dwyn ynghyd y dystiolaeth orau sydd ar gael ar bwnc penodol, gan ddarparu sail dystiolaeth i wneud penderfyniadau proffesiynol.
Mae canfyddiadau'r adolygiadau hyn wedi'u crynhoi mewn cyfres o daflenni. Mae'r taflenni hyn yn darparu gwybodaeth allweddol i weithwyr proffesiynol i helpu i lywio eu hasesiadau a'u penderfyniadau. Gweler y ddolen isod:
Mae’r taflenni ar gael yn ddwyieithog ac yn rhad ac am ddim gan yr NPSCC.