Cam-drin Rhywiol
Cam-drin Rhywiol
Unrhyw gyswllt neu weithgaredd rhywiol digyswllt sy'n digwydd heb gydsyniad na dealltwriaeth, neu gyda chydsyniad gorfodol, yw Cam-drin Rhywiol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol neu os ydych chi'n cefnogi plentyn, person ifanc neu oedolyn sydd wedi profi cam-drin rhywiol, gallwch ddod o hyd i wybodaeth yma am wasanaethau'r Ganolfan Atgyfeirio Cam-drin Rhywiol (CACRh) yng Ngwent a rhannau eraill o Gymru: trais rhywiol - Diogelu Gwent
Mae gwasanaethau CACRh yn gyfrinachol, ond mae gan staff ddyletswydd gyfreithiol i rannu gwybodaeth gyda'r Heddlu neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol os ystyrir bod plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl o niwed sylweddol.
Gallai unrhyw ymddygiad rhywiol sy'n gwneud i unigolyn deimlo'n anghyfforddus, yn ofnus neu dan fygythiad ddisgyn i'r categori o gam-drin rhywiol. Os yw cam-drin rhywiol yn digwydd yn gyfnewid am rywbeth – serch, bwyd, cyffuriau, lloches, amddiffyniad neu arian mae'n cael ei ystyried yn gam-fanteisio rhywiol.
Mae Deddf Cam-drin rhywiol a thrais rhywiol (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (legislation.gov.uk)) yn cynnwys cyswllt a mathau digyswllt o gamdriniaeth a niwed gan gynnwys:
- Treisio, ymgais i dreisio, byseddu neu gusanu dan orfodaeth
- Aflonyddu Rhywiol
- Dinoethiad anweddus
- Llygadu
- Stelcian
- Meithrin perthynas amhriodol
- Ymwneud â phornograffi heb ganiatâd
- Cam-drin rhywiol ar sail delweddau
- Ymosodiad rhywiol
- Camddefnyddio pŵer i gael boddhad rhywiol
- Cam-drin digswllt (edrych, ffotograffiaeth, dinoethiad anweddus ac aflonyddu)
Dangosyddion posibl cam-drin rhywiol
- Trallod emosiynol
- Anhawster cerdded neu eistedd
- Dillad isaf wedi rhwygo, staenio neu'n waedlyd
- Poen neu gosi yn yr ardal genhedlol
- Cleisiau neu waedu o amgylch yr organau cenhedlu allanol, y fagina neu'r anws
- Heintiau llwybr wrinol rheolaidd
- Staeniau semen ar ddillad
- Croen plyg y pidyn wedi rhwygo
- Meinwe yn rhwygo
- Newidiadau mewn hwyliau
- Or-gariadus
- Perthnasau llosgachlyd
- Cyswllt corfforol amhriodol o ran faint o gyswllt neu ddiffyg cyswllt
- Newid mewn ymddygiad arferol
- Teimlo'n euog neu gywilydd
- Encilgar
- Newidiadau annodweddiadol, hy gwlychu'r gwely, ymosodol, hunan-anafu
- Ymddygiad / iaith rywiol agored gan y person
- Brathiadau caru
- Patrymau cwsg afreolaidd
- Cleisio ar ochr fewnol y cluniau
- Beichiogrwydd