Cam-drin Emosiynol neu Gam-drin Seicolegol

Cam-drin emosiynol neu seicolegol yw achosi dioddefaint meddyliol yn fwriadol i berson sy'n agored i niwed, a hynny gan berson mewn sefyllfa lle dylid neu disgwylir ymddiried ynddo.

Enghreifftiau nodweddiadol o gam-drin emosiynol neu seicolegol

  • Ymosodiad llafar, e.e. gweiddi, sgrechian
  • Gwarth
  • Bygythiadau
  • Amddifadu person rhag derbyn parch
  • Gwrthod urddas ac anwyldeb
  • Bwlio
  • Peri ofn
  • Gwatwar
  • Galw enwau
  • Amddifadu / colli rhyddid
  • Gwrthod mynediad i berthnasau agos, ffrindiau, eraill
  • Beio
  • Sarhad
  • Amddifadu rhag dewis wrth wneud penderfyniadau
  • Cariad 'amodol’
  • Gwrthod mynediad at arferion diwylliannol neu grefyddol.

Dangosyddion posibl cam-drin emosiynol neu seicolegol

Nid yw'r rhestr hon yn drwyadl - ymarferwyr fe allech chi ddod i gyswllt â'r anarferol a rhywbeth nad ydych wedi dod ar ei draws o'r blaen:

  • Lefelau uchel o bryder / straen yn enwedig mewn ymateb i unigolion neu amgylchiadau penodol, e.e. hunan-anafu, curo pen a brathu dwylo
  • Goddefedd
  • Cynnwrf
  • Dryswch
  • Anwrthwynebiad
  • Ofn
  • Arwyddion o iselder, fel delfryd hunanladdol
  • Ymyrraeth/diffyg cwsg
  • Newidiadau mewn archwaeth
  • Colli diddordeb mewn meithrin cyswllt cymdeithasol
  • Ymdeimlad o dawelwch yn y cartref ym mhresenoldeb y person y tybir ei fod yn cam-drin
  • Cyrcydu
  • Cilio rhag unrhyw ddynesu corfforol gan ofalwyr
  • Crefu hoffter mewn ffordd ormodol ac amhriodolDinerthedd
  • Arwahanrwydd mewn ystafell mewn tŷ
  • Gwisgo'n amhriodol neu'n anweddus
  • Rhy awyddus i blesio
  • Gwadiad
  • Rhedeg i ffwrdd neu ddim eisiau mynd adref