Cam-drin Ariannol
Mae cam-drin ariannol neu faterol yn golygu dwyn neu gamddefnyddio arian, eiddo neu adnoddau unigolyn sy'n agored i niwed, a hynny gan berson mewn sefyllfa lle dylid neu disgwylir ymddiried ynddo. Mathau cyffredin o gam-drin ariannol yw pan fydd eraill yn camddefnyddio budd-daliadau'r wladwriaeth yr oedolyn bregus neu roi pwysau gormodol arnynt i newid ewyllysiau. Mae cam-drin ariannol/materol yn medru digwydd rhwng un person agored i niwed a pherson arall sydd hefyd yn agored i niwed.
Enghreifftiau nodweddiadol o gam-drin ariannol neu faterol:
- Dwyn
- Camddefnyddio arian, gan gynnwys budd-daliadau'r wladwriaeth, eiddo, eiddo personol ac yswiriant
- Cael arian neu feddiant trwy fygythiad, perswâd neu gam-fanteisio
- Rhwystro mynediad i asedau
- Gorelwa
- Ffugio cofnodion
- Trosglwyddo eiddo dan orfodaeth
Dangosyddion posibl cam-drin ariannol neu faterol:
- Caiff y pensiwn ei gymryd ond nid oes gan yr unigolyn arian, yn enwedig pan mae'n anarferol i'r unigolyn hwnnw wario arian heb gymorth
- Arian yn cael ei dynnu allan o gyfrifon banc heb esboniad neu mewn ffordd amhriodol
- Biliau heb eu talu neu rent hwyr pan fydd rhywun i fod yn gyfrifol am dalu biliau
- Pŵer Atwrnai Parhaus wedi ei rhoi neu newidiadau diweddar neu ewyllys yn cael ei greu pan nad yw'r person yn gallu gwneud penderfyniadau o'r fath
- Mae angen gofal preswyl / nyrsio ar yr unigolyn ond mae perthnasau yn ei atal rhag mynd i gartref preswyl / nyrsio oherwydd bod y cleient yn berchen ar ei eiddo ei hun a bod pryderon y bydd eu hystâd yn darwagio
- Gofalwr (anffurfiol / ffurfiol) yn ynysu'r oedolyn agored i niwed yn fwriadol rhag gweld ffrindiau neu deulu gan arwain y gofalwr i gael rheolaeth lawn
- Dogfennau ariannol yn diflannu heb esboniad, e.e. llyfrau cymdeithas adeiladu, a datganiadau banc, taliadau neu lyfrau archeb.
- Llofnodion ar sieciau nad ydynt yn debyg i lofnod yr oedolyn sy'n agored i niwed pan na all y person hwn ysgrifennu
- Pryder anarferol gan ofalwr bod gormod o arian yn cael ei wario ar ofal yr oedolyn sy'n agored i niwed
- Diffyg amwynderau fel teledu, dillad priodol, eitemau ymbincio personol y gall yr oedolyn sy'n agored i niwed eu fforddio
- Eitemau personol ar goll fel llestri arian, gemwaith neu eitem werthfawr arall.