Esgeuluso

Esgeuluso yw pan na fydd unrhyw berson sydd yn gyfrifol am ofalu am neu warchod person agored i niwed, yn darparu'r gofal hwnnw y byddai person rhesymol mewn sefyllfa debyg yn ei ddarparu.

Gall esgeuluso gynnwys gweithredoedd bwriadol neu anfwriadol. Mae'n cynnwys gofalwr sy'n methu'n anfwriadol i gyflawni ei rôl neu gyfrifoldebau gofalu, oherwydd gwybodaeth neu ddealltwriaeth annigonol o'r angen am wasanaethau.

Enghreifftiau nodweddiadol o esgeuluso

  • Methu â chynorthwyo â hylendid personol neu ddarparu bwyd, lloches a dillad
  • Methu â darparu neu gael mynediad at ymyriad meddygol ar gyfer anghenion iechyd corfforol a meddyliol nid yw hyn yn cynnwys achosion lle mae person yn gwrthod triniaeth)
  • Methu â diogelu rhag peryglon iechyd a diogelwch
  • Diffyg gofal personol a / neu ddiffyg rheoli gallu i ddal dŵr
  • Diffyg maeth
  • Cyfyngu i ystafell ar eu pennau eu hunain
  • Cyfyngu ar neu atal cyswllt cymdeithasol â ffrindiau neu berthnasau
  • Gwrthod mynediad i wasanaethau.

Dangosyddion posibl esgeuluso

  • Diffyg gofal personol a / neu ddiffyg rheoli dal dŵr
  • Dirywiad cyffredinol mewn iechyd
  • Baw gormodol neu beryglon iechyd eraill yn amgylchedd byw yr oedolyn sy'n agored i niwed
  • Dillad anaddas ar gyfer tywydd
  • Cyflwr meddygol heb ei drin
  • Brechau, briwiau, llau
  • Colli pwysau
  • Diffyg maeth
  • Dadhydradu
  • Camddefnyddio meddyginiaeth
  • Methu â chael / hwyluso'r defnydd o ddyfeisiau prosthetig angenrheidiol, dannedd gosod, sbectol, cymhorthion clyw, neu offer llawfeddygol gwydn
  • Briwiau dolur gwasgu
  • Amgylchedd cartref nad yw'n gydnaws ag anghenion iechyd sylfaenol, e.e. gwresogi annigonol
  • Diffyg goruchwyliaeth gyson, naill ai gartref neu yn ystod gweithgareddau sy'n peri perygl iddynt
  • Diffyg golau
  • Dodrefn gwael o'i gymharu â gweddill y tŷ
  • Golwg anniben
  • Diffyg dillad gwely priodol