Trais rhywiol

Beth yw Trais Rhywiol?

Trais rhywiol yw unrhyw weithred neu weithgaredd rhywiol dieisiau. Yn ôl Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 mae trais rhywiol yn golygu cam-fanteisio rhywiol, aflonyddu rhywiol, neu fygythiadau o drais o natur rywiol. Mae'r ddeddf yn diffinio cam-fanteisio rhywiol ymhellach fel rhywbeth a wneir i berson neu mewn cysylltiad â pherson sy'n gwarantu cael ei alw’n drosedd dan Ran 1, Deddf Troseddau Rhywiol 2003. Mae hyn yn cynnwys y diffiniadau canlynol:

  • Trais Rhywiol - pan fydd person yn treiddio i fagina, anws neu geg person arall gyda'i bidyn yn fwriadol pan nad yw'r person arall hwnnw'n caniatáu i'r treiddiad, a / neu nad yw'n credu'n rhesymol bod y person arall yn caniatáu i hyn.
  • Ymosodiad drwy dreiddiad - Treiddiad rhywiol yn fwriadol i fagina neu anws unigolyn arall, â rhan o gorff y person neu unrhyw beth arall, pan nad yw'r person arall hwnnw'n caniatáu, a / neu nad yw'r unigolyn yn credu'n rhesymol bod y person arall yn ei ganiatáu.
  • Ymosodiad rhywiol yw rhywun sy'n cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol yn rhywiol mewn modd nad yw'r person arall yn caniatáu iddo, a / neu nad yw'r unigolyn yn credu'n rhesymol bod y person arall yn ei ganiatáu.
  • Mae troseddau rhyw yn erbyn plant yn cynnwys trais rhywiol neu unrhyw weithgaredd rhywiol gyda phlentyn, troseddau rhyw yn erbyn plentyn yn y teulu a chwrdd â phlentyn ar ôl magu perthynas amhriodol, rywiol â phlentyn.
  • Aflonyddu rhywiol - mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn diffinio aflonyddu fel ymddygiad (gan gynnwys ar lafar) gan berson y mae ef neu hi yn gwybod neu y dylent wybod ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu ar y llall. O ran digwyddiadau a ddigwyddodd ar ôl 1 Hydref 2005 mae dau fath o aflonyddu rhywiol - cyswllt dieisiau ar sail eich rhyw ac ymddygiad llafar neu heb eiriau, sydd o natur rywiol.

Beth yw CAYRh?

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn darparu cymorth cyfrinachol, arbenigol i unrhyw un sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, neu gam-drin.

Maent yn cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys gofal argyfwng, archwiliadau meddygol a fforensig, dulliau atal cenhedlu brys, cefnogaeth emosiynol a phrofion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Gallant hefyd drefnu mynediad at gynghorydd trais rhywiol annibynnol (CTRhA), yn ogystal â chyfeirio at gymorth iechyd meddwl a gwasanaethau cymorth trais rhywiol yn y sector gwirfoddol

I gael mynediad i gyfeirlyfr Gwent: Cyfeiriadur Gwasanaethau VAWDASV Gwent 

Amy Fwy o wybodaeth ar Ganolfannau Atgyfeirio  Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru: Canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol CAYRhau

 

Trais Rhywiol mewn perthynas agos â phartner

Gall unigolyn sy'n cyflawni trais rhywiol fod mewn unrhyw fath o berthynas â'r dioddefwr, ac mae hynny'n cynnwys cymar agos. Mae llawer o wahanol dermau i gyfeirio at ymosodiad rhywiol a gyflawnir gan berson mewn perthynas â'r dioddefwr, yn cynnwys: trais rhywiol gyda chymar agos, trais domestig, trais rhywiol gyda chymar, a thrais rhywiol mewn priodas. Waeth pa derm a ddefnyddir neu sut y diffinnir y berthynas, nid yw byth yn iawn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb ganiatâd rhywun. Anaml y ceir ymosodiad rhywiol ar ei ben ei hun mewn perthynas. Mae'n aml yn digwydd ochr yn ochr â mathau eraill o ymddygiad camdriniol.

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn dioddef, neu wedi dioddef Trais Rhywiol, ewch i'r adran 'Cymorth a Chyngor'.