Amdanom Ni
Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent gyfan (GwASB) a Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru (SEWSCBB) yw'r Byrddau partneriaeth aml-asiantaeth statudol sy'n gyfrifol am sicrhau bod diogelu wrth wraidd yr holl wasanaethau a ddarperir ar draws y rhanbarth. Maent yn cael eu cefnogi yn eu gwaith gan nifer o is-grwpiau sy'n rheoli'r busnes craidd a darnau eraill o waith, mwy penodol, sy'n cyflawni’r blaenoriaethau strategol a osodir gan y Byrddau bob blwyddyn. Cefnogir pob un o'r grwpiau hyn gan Uned Fusnes Diogelu Gwent sy'n gweithio gydag aelodau'r Bwrdd ac is-grwpiau i gyflawni'r canlyniadau penodedig.
Gellir lawr lwytho'r Strwythur Diogelu Strategol Rhanbarthol yma.
Er bod dau Fwrdd Diogelu ar wahân ar hyn o bryd, sef Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent gyfan (GwASB) a Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru (SEWSCBB), defnyddir brand Diogelu Gwent i gynnal y deunyddiau hyrwyddo a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth. Y brand hwn yw'r enw a'r logo cyffredinol sy'n berthnasol i'r ddau Fwrdd. Am unrhyw wybodaeth neu ymholiadau sy'n ymwneud â Diogelu Gwent cysylltwch ag Uned Fusnes Diogelu Gwent.
Mae Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru wedi cynhyrchu canllaw rhyngweithiol a chyfeirlyfr sy'n rhoi trosolwg o'r gwahanol asiantaethau sy'n ymwneud â diogelu plant ac oedolion yng Nghymru.