Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn cwmpasu trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys cam-fanteisio'n rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, yr hyn a elwir yn gam-drin ar sail anrhydedd, a rheolaeth drwy orfodaeth. Mae pob math o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn doriadau sylfaenol o hawliau dynol sy'n cael eu cyflawni yn erbyn menywod, dynion a phlant. Bob blwyddyn, mae bywydau'n cael eu difrodi'n ddiangen; mae pob math o drais a cham-drin yn annerbyniol ac yn gofyn am ymateb effeithiol ac amserol gan yr holl wasanaethau cyhoeddus.