Adolygiadau Ymarfer Achos
Busnes craidd y Byrddau Diogelu yw cynnal adolygiad achos pan fydd plentyn neu oedolyn yn marw neu os bydd ei iechyd yn dioddef yn ddifrifol neu'n barhaol ac os amheuir unrhyw fath o gam-drin neu esgeuluso. Diben adolygiad yw archwilio pa mor dda y mae asiantaethau'n cydweithio i ddiogelu'r unigolyn. Rydym yn defnyddio dull sy'n edrych ar systemau ac yn canfod agweddau dysgu i asiantaethau.
Ffurflen atgyfeirio
YBydd angen i chi ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio hon os ydych yn bwriadu atgyfeirio achos i’w ystyried gan y Grŵp Adolygu Achosion.
Gweithio Gyda’n Gilydd Cyfrol 2
Gweithio gyda'n Gilydd Cyfrol 2 yw'r canllaw sy'n egluro'r meini prawf ar gyfer atgyfeirio achosion Plant . Mae'r ddogfen hon yn eich tywys drwy'r broses sy'n digwydd pan fydd yr atgyfeiriad wedi'i wneud. Lawr lwythwch gopi o Gweithio Gyda’n Gilydd Cyfrol 2 yma.
Gweithio Gyda’n Gilydd Cyfrol 3
Gweithio gyda'n Gilydd Cyfrol 3 yw'r canllaw sy'n egluro'r meini prawf ar gyfer atgyfeirio achosion Oedolion. Mae'r ddogfen hon yn eich tywys drwy'r broses fydd yn digwydd pan fydd yr atgyfeiriad wedi'i wneud. Lawr lwythwch gopi o Gweithio Gyda'n Gilydd Cyfrol 3 yma.